Cyflwyniad
Mae’r polisi hwn yn nodi ein hegwyddorion wrth ddyrannu ein cartrefi rhent, y meini prawf cymhwysedd ac unrhyw wybodaeth arall sy’n berthnasol.
Ei nod yw sicrhau ein bod yn defnyddio ein cartrefi mewn modd effeithiol i ddiwallu’r angen am gartrefi, a hynny gan weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol Casnewydd, Torfaen, Sir Fynwy, Blaenau Gwent a Phowys.
Cwmpas
Mae’r polisi hwn yn berthnasol i breswylwyr presennol yn ogystal â darpar breswylwyr, preswylwyr yn y dyfodol a chydweithwyr.
Mae’n cynnwys:
- Tai cymdeithasol
- Tai fforddiadwy
- Rhanberchnogaeth
- Rhentu i Berchnogi
- Rhent Canolradd
- Rhent y Farchnad
- Lletyau Cynllun Gofal Ychwanegol
- Cynlluniau i breswylwyr 55 oed a hŷn
- Cynlluniau i breswylwyr 40 oed a hŷn
Diffiniadau allweddol
Mae’r tabl canlynol yn amlinellu’r diffiniadau allweddol sy’n gysylltiedig â deall a dehongli’r polisi hwn.
Model rhentu fforddiadwy, sy’n rhoi mwy o opsiynau i bobl ag anghenion tai nad ydynt yn cael eu diwallu gan y farchnad dai preifat. Mae pobl yn talu llai na rhent y farchnad leol, ond ni chefnogir y cartrefi gan y grant tai cymdeithasol.
Rolau a Chyfrifoldebau
Mae’r tabl canlynol yn amlinellu’r cysylltiadau allweddol y mae’r polisi hwn yn berthnasol iddynt, gan gynnwys y rhai sy’n atebol ac yn gyfrifol am ei weithredu, yn ogystal â’r rhai a ddylai fod yn gwybod amdano.
Atebol yn gyffredinol am sicrhau bod Hedyn yn cyflawni ei rwymedigaethau cyfreithiol mewn perthynas â dyrannu tai.
Egwyddorion
Wrth weithio gyda phreswylwyr presennol, darpar breswylwyr a phreswylwyr y dyfodol, byddwn yn sicrhau bod:
- Ein dull o ddyrannu yn hawdd ei ddeall.
- Byddwn yn dyrannu cartrefi mewn ffordd sy’n deg, yn dryloyw ac yn gyson.
- Bydd contractau’n gynaliadwy i greu cymunedau ffyniannus a chysylltiedig.
- Bydd gan breswylwyr y gallu i symud pan fydd amgylchiadau’n newid, a hynny’n amodol ar addasrwydd ac argaeledd.
- Cydymffurfir â’r holl ofynion statudol a rheoleiddiol.
Os yw ymgeiswyr yn aelod o’r bwrdd, neu’n swyddog neu cyflogai, neu wedi bod yn un o’r blaenorol yn ystod y 12 mis diwethaf, neu’n berthynas agos i unigolyn o’r fath yn unol â thelerau atodlen 1 paragraff 2, ac yn dymuno cael llety gan Hedyn, rhaid iddynt ddatgan hyn, a byddwn yn cael cymeradwyaeth drwy: Ofyn am eithriad a ganiateir: Atodlen 1 i Ddeddf Tai 1996 – Esemptiad 3 – tai i gyflogeion a’u perthnasau.
Gellir dyrannu i berson ifanc (o dan 18 oed) mewn partneriaeth â’r Gwasanaethau Cymdeithasol a/neu gydag ymddiriedolwr/gwarantwr. Bydd unrhyw eithriadau i hyn yn cael eu cymeradwyo gan y Pennaeth Rheoli Tai. Bydd cwynion yn cael eu trin yn deg, yn gyson ac yn effeithlon, mewn ffordd agored a gonest yn unol â’n Polisi Cwynion, Canmoliaeth ac Ymholiadau.
Tai Cymdeithasol
Bydd ceisiadau gan bawb sy’n gwneud cais am dai cymdeithasol yn cael eu hadolygu gyda chydweithiwr i sicrhau eu bod yn gymwys cyn llofnodi Contract Meddiannaeth Ddiogel a bydd disgwyl i bob ymgeisydd dalu rhent ymlaen llaw. Ein nod yw y bydd aelwydydd sydd angen cartrefi wedi’u haddasu yn cael cartref sy’n cyfateb â’u hanghenion ac yn eu bodloni.
Ein nod yw sicrhau bod cymaint â phosibl o’n cartrefi rhent cymdeithasol yn cael eu meddiannu i’r eithaf, yn unol â’r meini prawf o ran maint a chyfyngiadau ochr yn ochr â’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer ystafelloedd gwely, sydd wedi eu nodi ym mhob Polisi Dyrannu Tai Cyffredin. Pan fydd preswylwyr presennol yn tan feddiannu neu’n byw mewn amgylchiadau gorlawn yn eu cartref presennol ac yn dymuno symud, byddwn yn cynnig cymorth.
Tai Fforddiadwy
Mae Hedyn yn berchen ar sawl math o dai fforddiadwy fel Rhanberchnogaeth, Rhentu i Berchnogi ac eiddo rhent canolradd, ac mae’n eu rheoli.
Bydd cartrefi a ariennir drwy Grant Tai Cymdeithasol yn cael eu dyrannu i’r rhai sydd wedi cofrestru ar y Gofrestr Tai Gyffredin berthnasol, rhestri aros Help to Own, neu unrhyw fodd arall y cytunwyd gyda’r awdurdod lleol perthnasol.
Rhanberchnogaeth
Gallwn adeiladu neu ddyrannu cartrefi ar gyfer ‘Rhanberchnogaeth’ lle defnyddiwyd Grant Tai Cymdeithasol, neu lle mae gofyniad cynllunio. Rhaid bod ymgeiswyr wedi cofrestru ar y Gofrestr Tai Gyffredin neu’r rhestr aros a gedwir gan yr awdurdod lleol priodol.
Gellir hysbysebu cartrefi neu eu cynnwys ar y system ddyrannu/dewis berthnasol, yn ogystal â’n llwyfannau hysbysebu ein hunain neu lwyfannau trydydd parti.
Llywodraeth Cymru sy’n pennu’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer ymgeiswyr a gall ymgeiswyr brynu cyfran gychwynnol o rhwng 25 a 75% ac yna talu rhent ar y gyfran nad ydynt yn ei brynu.
Rhaid bod ymgeiswyr yn gallu prynu’r gyfran leiaf sydd ar gael. Rhaid iddynt hefyd lwyddo yn yr asesiad ariannol a sicrhau morgais ad-dalu. Gall ymgeiswyr dalu am gyfranddaliadau pellach, fel arfer hyd at berchnogaeth lawn, a hynny ar unrhyw adeg.
Rhentu i Berchnogi
Mae gan Hedyn gartrefi ‘Rhentu i Berchnogi a allai ddod ar gael i’w rhentu. Bydd y rhain yn cael eu hysbysebu neu’n cael eu rhoi ar y rhestr fer drwy’r platfform gosod Cofrestr Tai Gyffredin/Dewis berthnasol neu restr aros a gytunwyd gyda’r awdurdod lleol perthnasol. Byddwn hefyd yn defnyddio ein llwyfannau hysbysebu ein hunain neu lwyfannau trydydd parti.
Rhaid bod ymgeiswyr wedi cofrestru ar y system ddyrannu briodol ar gyfer ardal yr awdurdod lleol. Gan fod y cynlluniau hyn yn cefnogi prynu cartref i’r rhai nad oes ganddynt ddigon o arian ar gyfer blaendal morgais, cynigir Contract Meddiannaeth Safonol i ymgeiswyr a byddant yn talu rhent y farchnad. Mae angen blaendal, a fydd yn cael ei gadw mewn cynllun blaendal tenantiaeth diogel a gymeradwywyd gan y llywodraeth a bydd rhaid talu mis o rent ymlaen llaw.
Bydd angen cynnal asesiad fforddiadwyedd cyn y gellir dyrannu’r mathau hyn o dai
Mae opsiwn i brynu’r cartref ar ôl dwy flynedd ac ar ddiwedd y cytundeb pum mlynedd. Os manteisir ar yr opsiwn i brynu, darperir 25% o’r rhent a dalwyd am y cyfnod rhentu ynghyd â 50% o’r cynnydd yng ngwerth yr eiddo (os o gwbl) gan Hedyn i’w ddefnyddio fel blaendal tuag at brynu’r eiddo.
Rhent Canolradd
Bydd y cartrefi hyn yn cael eu hysbysebu ar y Gofrestr Tai Gyffredin priodol a/neu drwy’r rhestr aros y cytunwyd arno gyda’r awdurdod lleol perthnasol. Mae Hedyn yn cadw’r hawl i hysbysebu’r cartrefi hyn yn uniongyrchol gan ddefnyddio llwyfannau trydydd parti. Ni fydd y rhent yn uwch na 80% o ‘rhent y farchnad’, fodd bynnag, mae amrywiadau ar draws gwahanol ardaloedd awdurdodau lleol. Mae angen blaendal a bydd yn cael ei gadw mewn cynllun blaendal tenantiaeth diogel a gymeradwywyd gan y llywodraeth. Bydd angen rhent mis ymlaen llaw a chynigir Contract Meddiannaeth Safonol neu Ddiogel.
Er mai’r hyn â ffefrir yw sicrhau bod ein heiddo yn cael eu meddiannu i’r eithaf, bydd Hedyn yn ystyried tanfeddiannu cartrefi rhent canolradd a rhent y farchnad yn amodol ar asesiad fforddiadwyedd.
Bydd angen cynnal asesiad fforddiadwyedd cyn y gellir dyrannu’r mathau hyn o dai.
Rhent y Farchnad
Pan ddaw cartrefi ‘rhent y farchnad’ ar gael, byddwn yn eu hysbysebu yn ôl disgresiwn. Nid oes rhaid bod ymgeiswyr wedi cofrestru ar y Gofrestr Tai Gyffredin berthnasol a bydd y rhent a godir yn cyfateb â rhent y farchnad ar yr adeg y byddant yn dod ar gael. Byddant yn cael eu dyrannu yn ôl fforddiadwyedd.
Bydd angen blaendal, a chaiff ei gadw mewn cynllun blaendal tenantiaeth a gymeradwyir gan Lywodraeth Cymru. Bydd angen rhent mis ymlaen llaw a chynigir Contract Meddiannaeth Safonol.
Bydd angen cynnal asesiad fforddiadwyedd cyn y gellir dyrannu’r mathau hyn o dai
Llety gofal â chymorth/arbenigol a gofal ychwanegol
Mae gan Awdurdodau Lleol hawliau enwebu 100% ar gyfer ein cynlluniau Gofal Ychwanegol. Mae hyn yr un peth ar gyfer ein cartrefi tai â chymorth ac arbenigol ac eithrio lle mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan hawliau enwebu hefyd. Mae’r cartrefi hyn yn cael eu dyrannu trwy gyfarfodydd panel aml-asiantaeth.
Elusendai
Hedyn yw ymddiriedolwr Elusendai Henry Burton, Roger Williams a’r Frenhines Victoria a byddant yn dyrannu eiddo yn y cynlluniau hyn i’r rhai dros 55 oed. Bydd yr eiddo hyn yn cael eu dyrannu ar drwyddedau.
Cael cartref gennym ni
Gall pob ymgeisydd gael y mwyafrif o gartrefi gan Hedyn ond mae cyfyngiadau oedran gennym a rhai cartrefi a all fod yn destun cynllun gosod lleol neu gosodiad sensitif.
Gall hyn gynnwys:
- Llety cynllun 55+
- Llety cynllun 40+
- Llety gofal ychwanegol
- Elusendai
Er mwyn galluogi Hedyn i reoli ei stoc dai, bydd yr eiddo hynny sydd wedi’u dynodi ar gyfer unigolion sy’n bodloni gofynion o ran oedran neu feini prawf penodol, yn parhau i gael eu dyrannu ar y sail hon tra hefyd yn ystyried amgylchiadau unigol.
Cyfyngiadau ar gael cartref gennym ni
Gall Hedyn wrthod cynnig llety i ymgeiswyr am gyfnod penodol o amser. Gall yr amgylchiadau dros wrthod, gynnwys:
- Ymgeisydd nad yw’n gymwys i gael Tai Cymdeithasol.
- Methu fforddio’r cartref.
- Byddai gorlenwi neu dan feddiannu yn dod yn broblem.
- Ymgeisydd sydd mewn dyled ers tenantiaeth flaenorol ac wedi methu â chadw at gynllun ad-dalu.
- Ymgeisydd sydd wedi ymddwyn mewn ffordd wrthgymdeithasol sylweddol ac wedi cael ei droi allan o’r blaen, neu’n destun achos cyfreithiol am dorri contract yn ddifrifol.
- Ymgeisydd bregus heb gynllun cymorth priodol neu os oes achos i bryderu am y gallu i gynnal tenantiaeth.
- Mae gwybodaeth am y cais yn dwyllodrus neu wedi’i gadw’n ôl.
- Mae’r cartref wedi’i addasu, ac nid oes angen addasiadau ar yr ymgeisydd.
- Mae angen addasiadau, ac ni ellir addasu’r cartref.
- Ymgeisydd â diffyg capasiti ac nid oes Atwrneiaeth neu mae Gorchymyn y Llys Gwarchod ar waith, ac ni ellir cytuno ar drefniant arall sy’n addas.
- Ymgeisydd sy’n ymwneud â gweithgarwch troseddol ac felly’n anaddas i dderbyn cynnig mewn lleoliad penodol.
- Ymgeisydd sydd wedi gwneud bygythiadau o drais tuag at rywun sy’n cynrychioli Hedyn.
- Ystyrir bod yr unigolyn yn risg i’r cartref neu’r gymuned ehangach.
Gall Hedyn wrthod cais am gartref mewn rhai achosion a chedwir yr hawl ganddo i ddefnyddio disgresiwn. Bydd unrhyw wrthodiadau yn cael eu trin fesul achos. Efallai gwrthodir llofnodi contract meddiannaeth neu ei oedi, os nad yw’r preswylydd newydd yn talu’r rhent sy’n ofynnol ymlaen llaw.
Dyraniadau gwledig/meini prawf cytundeb Adran 106
Mae gan Hedyn rai cartrefi sy’n cael eu dyrannu yn ôl meini prawf dyrannu gwledig yn ardaloedd Awdurdod Lleol Sir Fynwy a Phowys. Y nod yw sicrhau bod aelwydydd sydd â chysylltiadau cryf ag ardaloedd gwledig yn cael y cyfle i aros yn y cymunedau hynny. Byddwn yn dyrannu’r cartrefi hyn yn unol â’r meini prawf hyn, gan ddiystyru polisïau dyrannu eraill.
Garejys a mannau parcio i’w rhentu
Mae gan Hedyn nifer o garejys a mannau parcio ar gael i’w rhentu ar rai ystadau. Gall unrhyw un sy’n byw yng Nghasnewydd, Torfaen a Sir Fynwy wneud cais, ond rhoddir blaenoriaeth i breswylwyr a lesddeiliaid Hedyn sy’n byw yn yr ardal lle mae’r garej neu’r man parcio wedi’i leoli. Byddwn yn caniatáu i breswylydd rentu hyd at ddwy garej neu ddau fan parcio, a hynny’n unig, ar unrhyw adeg.
Monitro, ymgysylltu a chydymffurfio
Monitro ac adolygu
Perchennog y polisi hwn sy’n gyfrifol am sicrhau bod y polisi yn parhau i fod yn berthnasol, yn gyfredol ac yn hygyrch i’r gynulleidfa a fwriedir. Bydd y polisi hwn yn cael ei adolygu o leiaf bob tair blynedd.
Datganiad ymgysylltu
Mae Hedyn wedi ymrwymo i sicrhau bod preswylwyr yn chwarae rhan weithredol wrth wneud penderfyniadau a llunio gwasanaethau. Rhoddwyd ystyriaeth i adborth a dealltwriaeth preswylwyr wrth ddatblygu’r polisi hwn.
Cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a diogelu data
Mae’r polisi hwn yn destun asesiad parhaus o’r effaith ar y gwasanaethau a ddarperir, i’n galluogi i barhau i esblygu i ddiwallu anghenion yr holl breswylwyr, tenantiaid masnachol a chydweithwyr.
Mae’r polisi hwn yn cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data.