English
English

Ein Strategaeth

Cyflwyniad

Wrth i ni gamu i mewn i’r fath bennod newydd a chyffrous, rydym yn falch o rannu ein strategaeth gyda chi.

Mae’n uchelgeisiol tu hwnt, ond mae’n gadarn, gan ei bod yn nodi ein dyheadau i adeiladu cymunedau cysylltiedig lle gall pawb fyw’n dda. Mi fydd yn ein tywys drwy’r blynyddoedd nesaf, felly byddwn yn canolbwyntio’n ddiamheuol ar y weledigaeth hon.

Caiff ei siapio gan brofiadau byw a lleisiau ein preswylwyr – cawsom wybod pa bethau sydd o bwys iddynt hwy. Y mewnwelediad hwnnw sy’n sbarduno ein cenhadaeth. Mi fydd yn tanio ein momentwm ac mi fydd yn ein hysbrydoli i anelu’n uwch.

Mae ein cydweithwyr wrth wraidd y daith hon hefyd. Eu gofal, eu hangerdd a’u cysylltiad dwfn â de-ddwyrain Cymru yw ein cryfderau mwyaf. Mae’r lle hwn yn gartref iddyn nhw hefyd, ac mae’r ymrwymiad hwnnw a rennir yn disgleirio ym mhopeth y maen nhw’n ei wneud.

Gyda’n gwreiddiau yn y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu, rydym yn dod â phrofiad ar y cyd, gwybodaeth leol, rhwydweithiau cryf a phartneriaethau ystyrlon at ei gilydd. Dyma’r elfennau fydd yn caniatáu inni gerdded ochr yn ochr â’n cymunedau a’u cefnogi i dyfu.

Nawr, wrth i ni symud ymlaen fel Hedyn, rydym yn gwneud hynny gydag egni, pwrpas ac ymdeimlad dwfn o gyfrifoldeb.

Mae’r strategaeth hon yn nodi dechrau hyderus, wedi’i adeiladu ar sylfeini cadarn a’i thywys gan y gwerthoedd sy’n ein diffinio: i wneud y peth iawn, ei wireddu a gwneud gwahaniaeth.

Ni yw Hedyn

Wrth uno Melin a Chartrefi Dinas Casnewydd fe ddown â dau sefydliadu cadarn ynghyd, i greu Hedyn.

Rydym bellach yn berchen ar dros 15,000 o eiddo yn ne-ddwyrain Cymru ac yn eu rheoli. Rydym wedi ymrwymo i gyflymu a chynyddu ein dylanwad ledled y rhanbarth.

Mae Hedyn yn rhoi’r potensial i ni gyflawni hyd yn oed mwy. Ond gwyddom nad yw uno yn unig yn ddigon. Os ydym am drawsnewid, mae angen i ni ei wireddu trwy weithredu, trwy uchelgais, trwy bobl a thrwy gynlluniau.

Mae’r cynnydd yn ein cryfder ariannol, ein heffeithlonrwydd a’r gwydnwch fel sefydliad yn cynyddu ein cyfleoedd. Trwy ddefnyddio ein graddfa a’n ehangder, gallwn gyflawni mwy a chael effaith gadarnhaol ar ein cwsmeriaid, ein cymunedau a’n cydweithwyr.

Rydym yn barod i arloesi. Rydyn ni’n mynd i herio confensiynau, i ddiwallu anghenion esblygol ein cwsmeriaid. Byddwn yn buddsoddi nid yn unig mewn cartrefi, ond byddwn yn cefnogi lles a gwytnwch ein preswylwyr, nawr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Wrth wneud hynny, byddwn yn creu effaith sy’n ystyrlon ac yn cynnig gwerth eithriadol i’r rheini yr ydym yn eu gwasanaethu.

Rydym am greu dyfodol lle mae tai diogel, cynaliadwy a fforddiadwy yn realiti i bawb. Rydyn ni am i’n cymunedau ffynnu. Rydym am rymuso ein cydweithwyr i wneud gwahaniaeth.

Sut byddwn ni’n gwneud hynny? Trwy fabwysiadu ‘Ffordd Hedyn’.

'Ffordd Hedyn'

Egwyddorion ein sefydliad yw:

  • Gwasanaethau’n seiliedig ar leoedd sy’n rhoi gwerth am arian i’n cwsmeriaid a’n preswylwyr trwy ddylunio a chyflenwi gwasanaethau sy’n diwallu eu hanghenion, gyda dewisiadau o ran gwasanaethau digidol.
  • Gwerthfawrogi lles cydweithwyr, cynnig lle gwych i weithio, lle mae cydweithwyr yn cael eu cefnogi i ddysgu, a’u grymuso i gynnig gwasanaethau effeithiol, sy’n canolbwyntio ar y cwsmer.
  • Rheoli ein busnes a’n gwasanaethau mewn ffordd gynhwysol sy’n hyrwyddo cynaliadwyedd amgylcheddol.
  • Rhoi ystyriaeth bob amser i gyfleoedd i dyfu a gwella, a cheisio partneriaethau a dulliau ar y cyd i chreu effaith i’r eithaf, a chyfleu hynny.
  • Rheoli risg yn effeithiol, sicrhau gwerth am arian, a gwella gwytnwch busnes a gallu ariannol.
  • Glynu’n ddigyfaddawd at y safonau uchaf posib o ran diogelwch a chydymffurfiaeth cyfreithiol.

Y strategaeth hon yw ein hymrwymiad i wireddu hyn i gyd.

Yr amgylchedd gweithredu

Mae ein byd yn esblygu’n gyflym, mewn ffordd sy’n cyflwyno heriau a chyfleoedd. Nawr, yn fwy nag erioed, mae’n rhaid i ni gadw ar flaen y newidiadau o’n cwmpas ac ymateb iddynt.

Byddwn yn parhau i fod yn gadarn yn ein hymgais i gyflawni ein gweledigaeth a byddwn ystwyth o ran y tactegau rydyn ni’n eu defnyddio i gyflawni ein blaenoriaethau. Trwy fod yn hyblyg wrth ddarparu, gallwn ymateb i’r amgylchedd anwadal, addasu sut rydym yn gweithredu i osgoi canlyniadau niweidiol, a manteisio ar gyfleoedd. Mae’r fath ystwythder yn ein galluogi i sicrhau bod ein cwsmeriaid a’n cymunedau yn teimlo effaith ystyrlon a gwerth eithriadol.

Mae Cymru yn wynebu argyfwng tai, ac mae angen cartrefi fforddiadwy ar frys. Rydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r her hon trwy ddarparu cartrefi o ansawdd uchel, ac rydym yn croesawu’r safonau rheoleiddio cynyddol ar ddiogelwch adeiladau. Mae’r fath uchelgeisiau yn galw am gyfuniad o fuddsoddi pellach a ffocws ar gynyddu ein capasiti.

Mae gan amodau economaidd a chostau uwch, oblygiadau sylweddol i bawb, sy’n golygu bod angen i ni fod mor effeithlon â phosibl.
Yn ogystal, mae argyfwng cyllido’r sector cyhoeddus yn effeithio ar wasanaethau cymunedol hanfodol, sy’n golygu bod partneriaethau cadarn yn bwysicach nag erioed.

Gyda heriau a chyfleoedd newydd daw’r angen am sgiliau a thalent newydd, a byddwn yn buddsoddi mewn gweithlu sy’n barod i’r dyfodol.

Nid yw’r ymateb byd-eang i’r argyfwng hinsawdd yn gymesur â’r her. Rydym yn ymroddedig i leihau ein hôl troed carbon, gwella effeithlonrwydd ynni, ac adeiladu cymunedau cynaliadwy.

Mae technoleg yn rhoi cyfle i ni wneud mwy, ei wneud yn effeithlon a’i wneud yn well. Rydym yn deall costau a risgiau arloesi technolegol a seiberddiogelwch, a’r risg fwyaf o fethu â moderneiddio. Mae gennym yr awydd i fanteisio ar dechnoleg er budd ein cymdeithas a’n cwsmeriaid

Ein blaenoriaethau

Cwsmer

Profiad cwsmer ragorol i’n preswylwyr

Rydym yn gwerthfawrogi’r berthynas â’n cwsmeriaid, trwy yn cadw ein haddewidion ac yn gwneud pethau’n iawn y tro cyntaf, fel bod ein preswylwyr yn mwynhau profiad y cwsmer.

Buddsoddi yn ein cartrefi fel eu bod yn bodloni dyheadau ein preswylwyr nawr ac yn y dyfodol.

Byddwn yn:

  • Ddigyfaddawd o ran diogelwch adeiladu, cadw ein cwsmeriaid yn ddiogel a gwneud yn siŵr bod ein cartrefi yn rhydd o leithder, llwydni ac anwedd.
  • Cyflwyno rhaglen datgarboneiddio uchelgeisiol i wella effeithlonrwydd yr ynni a ddefnyddir yn ein cartrefi a rhoi blaenoriaeth i gynhesrwydd fforddiadwy.
  • Buddsoddi yn y gwaith o foderneiddio ein cartrefi i sicrhau eu bod yn ddymunol a gwneud y mwyaf o berfformiad asedau a gwerth cylch bywyd.
  • Darparu gwasanaeth atgyweirio o’r radd flaenaf sy’n gwneud pethau’n iawn y tro cyntaf.

Teilwra gwasanaethau i ddiwallu anghenion ein preswylwyr, gan aros yn lleol, cadw’n dryw a pherthnasol wrth eu cefnogi i fyw eu bywydau gorau.

Byddwn yn:

  • Cyflawni gwasanaethau sy’n seiliedig ar le ac sy’n canolbwyntio ar y person, i gyflawni ein haddewid i’n cwsmeriaid.
  • Sicrhau bod gan gwsmeriaid fynediad cyfartal i’n gwasanaethau trwy gydnabod eu hanghenion unigol ac ymateb iddynt.

Gwrando, dysgu a gweithredu ar lais y cwsmer i ddarparu gwasanaethau gwych.

Byddwn yn:

  • Ymgorffori llais y cwsmer i sbarduno ein penderfyniadau a gwella’r ffordd yr ydym ni’n gweithio.
  • Darparu profiad cyson i’r cwsmer trwy wasanaethau wedi’i siapio gan lais y cwsmer.
Hedyn colleagues and pupils from Milton Primary cut the ribbon at the big Ringland shopping centre opening.

Cymuned

Cartrefi cynaliadwy mewn cymunedau cysylltiedig sy’n ffynnu

Ein hymrwymiad i’n pwrpas cymdeithasol yw’r hyn sy’n ein galluogi i wneud y gwahaniaeth rydyn ni yma i’w wneud. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid sy’n rhannu ein huchelgais i greu cymunedau cysylltiedig sy’n ffynnu, drwy fynd i’r afael ag anghydraddoldeb, cynnig cyfleoedd newydd i bobl a’u grymuso.

Ymgysylltu â’n cymunedau i adfywio lleoedd trwy adeiladu ar gryfder ein cymunedau.

Byddwn yn:

  • Meithrin dulliau cydweithio, partneriaethau a rhwydweithiau o fewn ein cymunedau a thu hwnt.
  • Creu atebion sy’n defnyddio adnoddau presennol yn effeithlon, ac sy’n eiddo i’n cymunedau

Byddwn yn adfywio ein cymunedau lle bo hynny’n briodol a, lle nad ydyn nhw’n bodloni anghenion ein cwsmeriaid mwyach, byddwn yn archwilio atebion a’u hailddatblygu.

Byddwn yn:

  • Ymgysylltu â’n cymunedau i gynllunio cyfleoedd adfywio sy’n rhoi pobl yn gyntaf.
  • Rhoi rhaglen bwrpasol ar waith i adfywio cymunedau presennol.

Creu datblygiadau deiliadaeth gymysg o ansawdd uchel, gan groesawu’r cyfle i greu mannau cysylltiedig, diogel a chroesawgar lle mae pobl eisiau byw, gweithio a dysgu.

Byddwn yn:

  • Mynd i’r afael â phrinder tai trwy adeiladu cartrefi fforddiadwy i bobl, beth bynnag yw eu lefelau incwm.
  • Sicrhau bod datblygiadau newydd yn ystyriol o’r amgylchedd ac yn fforddiadwy i’w gwresogi.

Cydweithiwr

Cydweithwyr â grym y gellir ymddiried ynddynt

Ein pobl sydd wrth galon Hedyn. Pennir ein cynnydd gan yr hinsawdd rydyn ni’n ei chreu i rymuso ac ysbrydoli ein cydweithwyr i wneud y gwahaniaeth. Mae ein cydweithwyr yn angerddol am ein gweledigaeth, a byddant yn gwireddu’r weledigaeth honno.

Hinsawdd lle mae gan gydweithwyr y rhyddid a’r offer i wneud y peth iawn, yn chwim.

Byddwn yn:

  • Ymgorffori cylch bywyd y cydweithiwr, gan sicrhau bod y bobl iawn sydd â’r sgiliau iawn, yn y swyddi iawn.
  • Sefydlu amgylchedd gwaith diogel, iach a chefnogol sy’n cefnogi cydweithwyr i ffynnu.

Dysgu o brofiadau ein cwsmeriaid a’n cydweithwyr a defnyddio hyn i’n cefnogi i wella’n barhaus.

Byddwn yn:

  • Hyrwyddo dysgu parhaus i arfogi’r sefydliad i ymateb i’r byd sy’n newid o’n cwmpas.
  • Grymuso cydweithwyr, gan ddefnyddio technoleg a mewnwelediad, i ddarparu gwasanaethau rhagweithiol wedi’u teilwra.

Mae ein hymroddiad i ddyfodol cynaliadwy, bod yn deg ac yn gynhwysol, a chyflawni ein pwrpas cymdeithasol yn cael ei adlewyrchu ym mhopeth y mae ein cydweithwyr yn ei wneud.

Byddwn yn:

  • Sbarduno cynaliadwyedd amgylcheddol, lleihau’r effaith amgylcheddol a chefnogi dyfodol gwyrddach ymhob peth y gwnawn.
  • Adeiladu sefydliad teg a chynhwysol trwy groesawu amrywiaeth a dileu rhwystrau i greu profiad gwell i gwsmeriaid.

Gallu

Gwneud y mwyaf o’n gallu i gyflawni mwy

Er mwyn cyflawni ein huchelgais, byddwn yn gwella ein gallu trwy ddefnyddio ein hadnoddau yn fwy effeithlon ac effeithiol.

Mae effeithlonrwydd gweithredol, mewnwelediad a chynllunio sy’n canolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig yn rhoi’r gallu a’r gwytnwch i ni gyflawni ein huchelgais.

Byddwn yn:

  • Sbarduno gwelliannau parhaus trwy weithredu’n effeithlon ac effeithiol.
  • Meithrin mewnwelediad a chynlluniau i flaenoriaethu gweithgareddau effaith uchel.

Byddwn yn datblygu atebion arloesol i’n helpu i gyflawni ein nodau, gan ddefnyddio technoleg newydd a syniadau ffres i fod yn wahanol ac yn flaengar pan fo angen:

  • Sbarduno’r gallu i weithredu’n effeithlon trwy ddigideiddio a deallusrwydd artiffisial.
  • Harneisio pŵer partneriaethau i gyflawni atebion clyfar a chanlyniadau gwell.

Defnyddio ein gallu cynyddol i roi cyfleoedd gwell i’n cwsmeriaid, ein cymunedau a’n cydweithwyr.

Byddwn yn:

  • Buddsoddi yn ein gallu i ddatblygu atebion sy’n addas i’r dyfodol i wella profiad y cwsmer a’n cryfder ariannol.
  • Defnyddio ein hadnoddau mewn ffordd sy’n gwneud gwahaniaeth.
Dolenni allanolAmdanom niRhagor o wybodaethEin Haddewid i chiRhagor o wybodaeth
Gan Everglow Nôl adref Chwiliwch yma Mae pobl yn aml yn chwilio am