English
English

Hunanwerthusiad Hedyn

Cyflwyniad

Cafodd yr hunanwerthusiad hwn ei baratoi yn unol â Fframwaith Rheoleiddio Llywodraeth Cymru ar gyfer Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig. Mae’n asesiad seiliedig ar dystiolaeth a gymeradwywyd gan y Bwrdd a hynny o ran ein mesurau llywodraethu, y gwasanaethau yr ydyn ni’n eu darparu a’n hyfywedd ariannol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Mae hunanwerthusiad yn adlewyrchu ein hymrwymiad at gyd-reoleiddio, tryloywder a gwelliant parhaus, ac mae’n dangos sut rydyn ni wedi ymgysylltu â chwsmeriaid, ymateb i risgiau allweddol, a chydymffurfio â’r Safonau Rheoleiddio. Mae’n cwmpasu Grŵp Hedyn, yn cynnwys Candleston ac Almshouse ac mae’n nodi ein hymagwedd at sicrwydd, atebolrwydd a gwelliant. Mae’n broses barhaus y mae Hedyn yn ei hadolygu’n rheolaidd trwy raglen dreigl o adolygu ac ymgysylltu.

Mae’n eiddo i’r Bwrdd ac yn cael ei oruchwylio gan weithgor pwrpasol, sy’n mynd ati’n drylwyr i graffu arno a sicrhau ei fod yn cyd-fynd â’n Fframwaith Cynllunio Strategol. Mae llais y cwsmer yn ganolog, ac mae gennym systemau ar waith o ran adborth rheolaidd a sesiynau pwrpasol gyda’n ‘Panel Ymgynghorol a ‘Buzz’ yn mynd ati’n uniongyrchol i lywio’n graddfeydd asesu a chydymffurfiaeth.

Mae ein hasesiad yn cyfeirio at ystod eang o ffynonellau dibynadwy, wedi’u dogfennu, yn cynnwys adroddiadau sicrwydd y Bwrdd, gwybodaeth am berfformiad, adolygiadau annibynnol, ac adborth uniongyrchol gan gwsmeriaid, ac yn sail iddynt mae tystiolaeth gadarn, sy’n seiliedig ar ganlyniadau sy’n deillio o bob rhan o’r Grŵp. Mae tystiolaeth glir, hygyrch yn ategu at ein holl ddatganiadau cydymffurfio a chamu gwella, gan sicrhau bod ein casgliadau yn adlewyrchu ein mesurau llywodraethu, y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu a’n hyfywedd ariannol yn gywir.

Lawrlwytho’r hunanwerthusiad

Lawrlwytho copi o’r hunanwerthusiad (PDF 433kb).

Efallai na fydd y ffeil hon yn addas i ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol. Os oes angen gwybodaeth mewn fformat gwahanol arnoch, cysylltwch â ni.

Cydymffurfiaeth crynodeb

Ffurf y grŵp: Sefydlwyd Hedyn ar 1 Ebrill 2025 ar ôl i Gartrefi Melin a Chartrefi Dinas Casnewydd fynd ati o’u gwirfodd i uno, yn dilyn cryn lawer o ystyriaeth ddiwyd a gofalus, a chyfnod o ymgysylltu helaeth.

Mabwysiadu Rheolau Enghreifftiol ar gyfer Cymdeithasau Tai yng Nghymru 2021; Cymeradwyodd y Bwrdd Reolau Grŵp Hedyn, Rheolau Sefydlog, Rheoliadau Ariannol, Cynllun yr Awdurdod Dirprwyedig, Cod Llywodraethu CHC.

Rydym yn cynnal sefyllfa ariannol gref a chynaliadwy. Mae ein cyllideb flynyddol a’n cynllun busnes 30 mlynedd yn cael eu cymeradwyo gan y Bwrdd ac maent yn cyd-fynd yn llawn â’n Strategaeth a’n Cynllun Corfforaethol i gyflawni ein blaenoriaethau.

Mae’r cynllun busnes yn cael ei ddadansoddi’n annibynnol bob blwyddyn i gadarnhau ein cadernid ariannol, gyda chefnogaeth a sicrwydd trydydd parti gan ein cynghorwyr trysorlys. Cynhelir profion straen cynhwysfawr, ac mae ein cynlluniau lliniaru yn cael eu hadrodd i’r Bwrdd i sicrhau cydnerthedd mewn ystod o sefyllfaoedd gwahanol.

Mae Hedyn, fel sefydliad newydd, wedi sefydlu dull unedig o ymdrin ag ansawdd ei wasanaeth trwy weithredu Strategaeth a Chynllun Corfforaethol newydd yn ogystal â Strategaeth Profiad Cwsmeriaid ac Addewid Cwsmeriaid a gynlluniwyd ar y cyd.

Mae’r rhain yn gosod disgwyliadau clir o ran y gwasanaeth. Cawsant eu llunio yn ôl adborth ein preswylwyr, ac yn sail iddynt mae systemau monitro ac adrodd cadarn. Mae’r fframwaith hwn yn sicrhau y gellir craffu’n barhaus ar y gwasanaethau a ddarperir, i’n galluogi i weithredu’n brydlon ar faterion, a mynd ati’n barhaus i wella canlyniadau i’n cwsmeriaid.

 ninnau’n sefydliad sydd newydd ei ffurfio, mae Hedyn wedi sefydlu dull newydd, integredig fel ffordd i ymgysylltu â phreswylwyr, gan adeiladu ar arfer gorau o du’r ddwy gymdeithas.

Rydym wedi lansio Strategaeth Profiad Cwsmeriaid a chreu grwpiau newydd dan arweiniad preswylwyr, fel Buzz a’r Panel Ymgynghorol, er mwyn sicrhau bod eu lleisiau yn llywio ein gwasanaethau a’n dulliau rheoli.

Mae ein fframwaith ymgysylltu wedi’i ymgorffori ar bob lefel, gan sicrhau bod cyfranogiad ystyrlon yn y broses o wneud penderfyniadau o’r cychwyn cyntaf.

Rydym yn mynd ati i asesu cydymffurfiaeth mewn ffordd drylwyr sy’n seiliedig ar dystiolaeth a hynny yng nghyd-destun pob un o Safonau Rheoleiddio Llywodraeth Cymru a’u cydrannau. Mae’r asesiad hwn yn cael ei adolygu a’i gymeradwyo gan y Bwrdd, gyda sicrwydd dogfennol a ffynonellau tystiolaeth.

Mae Hedyn yn gweithredu o dan y Rheolau Enghreifftiol ar gyfer Cymdeithasau Tai yng Nghymru 2021 ac mae wedi mabwysiadu Cod Llywodraethu CCC. Mae’r Bwrdd yn ymgymryd ag adolygiad ‘cydymffurfio neu egluro’, i gadarnhau cydymffurfiaeth lawn, a bydd unrhyw gamau tuag at wneud gwelliannau pellach yn cael eu monitro bob chwarter

Mae Hedyn wedi ymgorffori systemau rheolaidd ar draws y gymdeithas fel y gall cwsmeriaid rhoi adborth; o arolygon i
ddysgu gan gwynion a chanmoliaeth. Yn ogystal, cynhaliwyd sesiynau pwrpasol gyda’n panel preswyl ‘Buzz’, yn gyntaf ar y Fframwaith Rheoleiddio diwygiedig a’r newidiadau, ac yn ail ar ein dull o hunanwerthuso ac i wirio a herio ein graddfeydd asesu a chydymffurfio.

Mae proses hunanwerthuso Hedyn wedi’i hymgorffori yn ein Fframwaith Cynllunio Strategol, gan sicrhau ei fod yn cyd-fynd â mesurau adrodd a sicrwydd yn erbyn strategaethau a chynlluniau cyflawni. Mae hyn yn rhoi sylfaen dystiolaeth gadarn ar gyfer asesu.

Sefydlodd y Bwrdd weithgor pwrpasol i oruchwylio’r broses, craffu ar dystiolaeth, a chadarnhau ei uniondeb. Mae’r Bwrdd yn cadw perchnogaeth ac yn herio’n drylwyr i sicrhau bod y gwerthusiad yn adlewyrchu perfformiad yn gywir ac yn cael ei lywio gan brofiadau go iawn ein trigolion.

Mae’r dull a gymeradwywyd gan Fwrdd Hedyn o ran Risg a Sicrwydd yn cynnig fframwaith cadarn o ran nodi risgiau
gweithredol a strategol a’u rheoli. Mae ein cofrestr risgiau yn cael ei hadolygu’n barhaus, ac adroddir unrhyw bryderon a mesurau lliniaru allweddol bob chwarter i’r Bwrdd.

Mae hyn yn sicrhau y gellir goruchwylio risgiau sylweddol, pa mor effeithiol yw’r rheolaethau a’u haliniad â’n blaenoriaethau strategol. Mae profi straen, cynllunio ar gyfer sefyllfaoedd, a mapio sicrwydd yn sail i’n dull o weithredu, felly ein galluogi i gymryd camau rhagweithiol i fod yn wydn a diogelu ein hamcanion.

Safon 1: Llywodraethu ac Arweinyddiaeth Strategol

Gwyrdd cydymffurfio

Mae gennym ffordd gref o arwain a gwneud penderfyniadau, sy’n ein galluogi i ganolbwyntio ar yr hyn sydd fwyaf pwysig, sef cefnogi ein preswylwyr a’n cymunedau. Mae ein Bwrdd a’n tîm arweinyddiaeth yn defnyddio gwybodaeth o ansawdd da i wneud penderfyniadau gwybodus ac i reoli risg. Rydyn ni’n gwrando ar adborth ac yn ei ddefnyddio i lywio’r hyn rydyn ni’n ei wneud, fel y gallwn wneud gwahaniaeth go iawn yn y meysydd y mae ei angen fwyaf.

CrynodebCrynodeb

Mae dulliau arwain a mesurau llywodraethu cryf gan Hedyn i’n helpu i gyflawni ein pwrpas a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl. Mae ein strategaeth a gymeradwywyd gan y Bwrdd, ac a fabwysiadwyd gennym ym mis Ebrill 2025, yn gosod cyfeiriad clir i’r sefydliad ac mae’n adlewyrchu ein gweledigaeth, sef cymunedau cysylltiedig lle gall pawb fyw’n dda. Cefnogir hyn gan gynllun corfforaethol tair blynedd a’r angen i adrodd yn rheolaidd ar berfformiad. Mae hyn yn ein helpu i gadw ein ffocws ar ddarparu cartrefi a gwasanaethau o ansawdd uchel.

Mae gennym drefniadau llywodraethu clir sy’n sicrhau ein bod yn bodloni’r holl ofynion cyfreithiol a rheoleiddiol. Mae ein Bwrdd yn gweithredu o dan God Llywodraethu cymeradwy a chefnogir hyn gan bolisïau, rheolaethau a phrosesau sicrwydd cadarn. Rydym yn defnyddio data o ansawdd uchel, mewnwelediad a mesurau rheoli risg i gefnogi’r broses gwneud penderfyniadau, fel y gallwn ymateb i heriau a chyflawni ein blaenoriaethau yn hyderus.

Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI) yn ganolog i’r ffordd rydyn ni’n gweithio. Mae ein Haddewid Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn nodi ymrwymiadau clir i hyrwyddo tegwch, mynd i’r afael ag anghydraddoldeb a datblygu sefydliad cynhwysol. Mae hyn wedi’i ymgorffori yn ein penderfyniadau, ein polisïau a’n gwasanaethau, er mwyn ein helpu i gyflawni canlyniadau gwell i’n trigolion a’n cymunedau.

Rydym hefyd yn rhoi pwyslais cryf ar wrando ar ein preswylwyr. Mae adborth preswylwyr yn chwarae rôl bwysig wrth lunio ein gwasanaethau, a’n blaenoriaethau strategol. Trwy ymgysylltu’n ffurfiol ac yn anffurfiol, mae trigolion yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau a gweld y gwahaniaeth y mae eu hadborth yn ei wneud.

Safon 2: Rheoli risg a sicrwydd

Gwyrdd cydymffurfio

Mae gennym ni ymagwedd ragweithiol o ran nodi risgiau a allai effeithio ar ein gwasanaethau neu gynlluniau, a’u rheoli. Mae ein mesurau rheoli a’r sicrwydd sydd gennym o ran y rheolaethau hynny yn ein helpu i gadw ar y trywydd iawn, diogelu ein cartrefi, ac ymateb yn gyflym i heriau. Mae hyn yn golygu y gallwn barhau i ddarparu gwasanaethau diogel, dibynadwy i’n preswylwyr, hyd yn oed pan fydd pethau’n newid.

Crynodeb

Mae gan Hedyn drefniadau cryf ar waith o ran rheoli risg a sicrwydd, er mwyn cefnogi’r gwaith o gyflawni’n strategaeth a diogelu ein cartrefi, ein gwasanaethau a’n cymunedau. Mae dull Risg a Sicrwydd y Grŵp a gymeradwywyd gan ein Bwrdd yn nodi sut yr ydym yn nodi risgiau a chyfleoedd ac yn eu rheoli a monitro ar draws y sefydliad. Mae ein parodrwydd i gymryd risg yn glir ac mae’n arwain ein penderfyniadau, gan ein helpu i gymryd risgiau gwybodus a chymesur wrth barhau i ganolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf.

Rydym yn cynnal cofrestr risg sy’n dangos perchnogaeth ac atebolrwydd yn glir, ac i gefnogi hyn rydym yn adrodd yn rheolaidd ar berfformiad. Mae’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd yn ein goruchwylio’n annibynnol, gan fynd ati bob chwarter i adolygu risgiau allweddol, rheolaethau a materion sy’n dod i’r amlwg. Mae hyn yn sicrhau bod gennym reolaethau mewnol effeithiol ar waith a gallwn ymateb yn gyflym i newidiadau yn ein hamgylchedd gweithredu, gan gynnwys risgiau sy’n gysylltiedig â’n his-gwmni.

Rydym hefyd yn cynllunio ymlaen llaw i sicrhau y gallwn barhau i ddarparu gwasanaethau mewn amgylchiadau heriol. Mae ein trefniadau o ran parhad busnes, adfer yn dilyn trychineb a seiberddiogelwch yn cael eu hadolygu’n rheolaidd a’u profi i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn effeithiol ac yn gyfredol. Mae’r cynlluniau hyn yn cwmpasu ystod eang o aflonyddu posibl, gan ein helpu i amddiffyn ein preswylwyr, ein cydweithwyr a’n cartrefi.

Gydag ychydig o fewnwelediad a dysgu gwersi pan fydd digwyddiadau go iawn yn digwydd, rydym yn atgyfnerthu ein dull gweithredu. Mae hyn yn cynnwys adolygiadau annibynnol, meincnodi o fewn y sector a dysgu gwersi o ddigwyddiadau i barhau i wella ein gwytnwch.

Safon 3: Mae gwasanaethau o ansawdd uchel yn cael eu darparu

Gwyrdd cydymffurfio

Rydym yn gweithio’n galed i ddarparu gwasanaethau sy’n ddibynadwy, yn deg ac yn diwallu anghenion ein preswylwyr. O atgyweiriadau a chynnal a chadw i gefnogi pobl i gynnal eu contract, rydym yn canolbwyntio ar gael pethau’n iawn. Rydym yn rhannu gwybodaeth am berfformiad yn agored fel y gall preswylwyr weld sut rydyn ni’n gwneud, a’n dal ni i gyfrif.

Crynodeb

Mae Hedyn yn darparu gwasanaethau dibynadwy o ansawdd uchel sy’n cefnogi preswylwyr i fyw’n dda yn eu cartrefi a’u cymunedau. Ar ôl i ni uno, ein blaenoriaeth yw cynnal gwasanaethau cryf a chyson wrth weithio gyda thrigolion i lunio gwelliannau yn y dyfodol. Mae ein gwasanaeth atgyweirio a chynnal a chadw yn canolbwyntio ar wneud pethau’n iawn y tro cyntaf, gyda chefnogaeth brysbennu effeithiol a monitro perfformiad yn agos. Mae adborth gan breswylwyr yn dangos boddhad cadarnhaol gydag atgyweiriadau ac ansawdd cartrefi. Mae hyn yn rhoi hyder i ni yn ein gwasanaethau craidd.

Mae gennym agwedd rhagweithiol, sy’n canolbwyntio ar y person wrth fynd ati i gefnogi preswylwyr. Mae hyn yn cynnwys ymyrraeth gynnar, mynediad at gymorth wedi’i deilwra, a chyngor ar arian ac ynni i helpu preswylwyr i gynnal eu cartrefi. Rydym hefyd yn gweithio’n galed i gyflawni addasiadau amserol, gan helpu pobl i fyw’n ddiogel ac yn annibynnol. Mae cadw ein preswylwyr yn ddiogel yn flaenoriaeth uchel. Mae gennym drefniadau cadarn ar waith i ymateb i ymddygiad gwrthgymdeithasol, cam-drin domestig a throseddau casineb.

Mae gwrando ar breswylwyr yn ganolog i sut rydym yn gwella gwasanaethau. Rydym yn defnyddio ystod o adborth, gan gynnwys arolygon, cwynion ac ymgysylltu uniongyrchol, i ddeall yr hyn sydd yn gweithio’n dda, a ble mae angen i ni wneud yn well. Wrth feddu ar y fath ddealltwriaeth, gallwn ei ddefnyddio i wella gwasanaethau a siapio ein blaenoriaethau, gyda chefnogaeth ein Strategaeth Profiad Cwsmeriaid.

Rydym wedi ymrwymo i degwch a sicrhau bod gwasanaethau yn diwallu anghenion gwahanol bobl. Rydym yn defnyddio data a dealltwriaeth i nodi anghydraddoldebau, mynd i’r afael â nhw, a gwella canlyniadau. Mae gwybodaeth am berfformiad yn cael ei rannu’n agored, ac mae hyn yn galluogi i’n preswylwyr weld yn glir sut rydyn ni’n perfformio, ac maent yn cael cyfle i herio ein gwasanaethau a dylanwadu arnynt.

Safon 4: Mae preswylwyr yn cael eu grymuso i ddylanwadu ar wasanaethau

Gwyrdd cydymffurfio

Rydyn ni’n credu bod ein preswylwyr yn gwybod beth sy’n gweithio orau yn eu cymunedau. Dyna pam rydyn ni’n creu cyfleoedd iddyn nhw rannu eu barn a siapio ein gwasanaethau. Rydyn ni’n gwrando, yn dysgu ac yn gweithredu ar adborth, gan ei ddefnyddio i wella’r hyn rydyn ni’n ei wneud i adeiladu cymunedau cryfach a mwy cysylltiedig.

Crynodeb

Mae Hedyn yn creu cyfleoedd ystyrlon i breswylwyr ddylanwadu ar sut mae gwasanaethau yn cael eu dylunio a’u darparu. Rydym yn cynnig ystod eang o ffyrdd i gymryd rhan, o grwpiau ffurfiol fel Buzz a’r Panel Ymgynghorol, i ffyrdd mwy hyblyg o rannu adborth fel arolygon. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod ein hymagwedd yn un gynhwysol a hygyrch, fel y gall preswylwyr gymryd rhan mewn ffordd sy’n gweithio iddyn nhw.

Mae gwrando ar breswylwyr yn ganolog i’r ffordd rydyn ni’n gwneud penderfyniadau. Mae adborth ein preswylwyr yn cael ei gynnwys yn ein prosesau llywodraethu a sicrwydd, ochr yn ochr â gwybodaeth am berfformiad a gwybodaeth ariannol. Mae hyn yn sicrhau bod llais y preswylydd yn cael ei ystyried ar bob lefel yn ein sefydliad. Mae ein Strategaeth Profiad Cwsmeriaid yn cefnogi ein dull, ac mae’n sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar yr ymgysylltu, sicrhau ei fod yn ymatebol ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd o’r pwys mwyaf i breswylwyr.

Gallwn ddangos yn glir y gwahaniaeth y mae cyfranogiad preswylwyr yn ei wneud. Gweithiodd preswylwyr gyda ni i ddatblygu Ein Haddewid i Chi, sy’n nodi’r safonau y gallant eu disgwyl gan ein gwasanaethau. Defnyddir adborth i lunio polisïau, gwella gwasanaethau a blaenoriaethu’r meysydd hynny lle bydd newid yn cael yr effaith fwyaf. Rydyn ni’n rhannu diweddariadau ‘Fe ddywedoch chi, fe wnaethom ni’ yn rheolaidd fel y gall preswylwyr weld sut mae eu mewnbwn yn arwain at welliannau go iawn.

Rydym hefyd yn sicrhau ein bod yn clywed ystod eang o leisiau. Rydym yn ymgysylltu’n weithredol â phreswylwyr o wahanol gefndiroedd a chymunedau i ddeall profiadau ac anghenion amrywiol. Mae dysgu ar ôl cael adborth, cwynion a phroblemau gwasanaeth yn y gorffennol wedi’i ymgorffori yn y ffordd rydyn ni’n gwella gwasanaethau ac yn cynllunio ar gyfer y dyfodol. Mae hyn yn ein helpu i ddarparu gwasanaethau sy’n deg, yn gynhwysol ac wedi’u llunio gan y bobl sy’n eu defnyddio.

Safon 5: Mae rhenti a thaliadau gwasanaeth yn fforddiadwy

Gwyrdd cydymffurfio

Rydym yn gosod rhenti a thaliadau am wasanaeth mewn ffordd sy’n cydbwyso fforddiadwyedd â’r angen i fuddsoddi yn ein cartrefi a’n gwasanaethau. Rydyn ni’n dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru, arfer gorau, ac yn ystyried yr effaith ar ein preswylwyr. Mae hyn yn ein helpu i gadw’n deg, yn dryloyw ac yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Crynodeb

Mae Hedyn wedi ymrwymo i osod rhenti a thaliadau am wasanaeth sy’n deg, yn dryloyw ac yn fforddiadwy i’n preswylwyr, nawr ac yn y dyfodol. Rydym yn dilyn yr holl reolau a chanllawiau perthnasol, gan gynnwys safonau a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. Rydym hefyd yn adolygu ac ymgynghori ar ein dull bob blwyddyn i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn briodol ac yn gynaliadwy.

Mae fforddiadwyedd yn ganolog i’n penderfyniadau. Rydyn ni’n defnyddio mewnwelediad, gan gynnwys arolygon ar raddfa fawr, i ddeall gwir effaith rhent a thaliadau am wasanaeth ar ein preswylwyr. Mae hyn yn ein helpu i wneud dewisiadau gwybodus, fel rhewi neu leihau taliadau os yw fforddiadwyedd yn bryder. Rydym hefyd yn cymryd camau ymarferol i gefnogi preswylwyr a allai fod yn ei chael yn anodd, gan gynnwys cynnal cronfa galedi bwrpasol.

Mae ein Bwrdd yn chwarae rhan weithredol wrth oruchwylio’r dasg o osod rhent, drwy ystyried gofynion rheoleiddiol ac anghenion ein preswylwyr. Mae hyn yn sicrhau ein bod yn taro’r cydbwysedd cywir rhwng sicrhau bod cartrefi’n fforddiadwy a pharhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau, cartrefi presennol a chartrefi newydd ar gyfer y dyfodol.

Rydym yn agored ac yn dryloyw ynglŷn â sut mae rhenti a thaliadau yn cael eu gosod, ac rydym yn adolygu ein dull yn rheolaidd er mwyn dysgu a gwella. Trwy wrando ar breswylwyr a defnyddio tystiolaeth i lywio penderfyniadau, rydym yn sicrhau bod ein dull yn parhau i fod yn deg, yn gyson ac yn canolbwyntio ar gefnogi pobl i gynnal eu tenantiaethau.

Safon 6: Dull strategol tuag at werth am arian

Gwyrdd cydymffurfio

Rydym wedi ymrwymo i wneud yn siŵr bod pob punt rydyn ni’n ei wario yn gwneud gwahaniaeth. Trwy gynllunio’n ofalus ac adolygu’r ffordd yr ydyn ni’n darparu gwasanaethau, rydym yn chwilio am ffyrdd o wella a gwneud pethau’n well. Mae hyn yn ein helpu i wella sut rydym yn buddsoddi yn ein cartrefi, cefnogi ein cymunedau, a darparu’r canlyniadau gorau posibl i’n preswylwyr.

Crynodeb

Mae gan Hedyn ymagwedd strategol a chytbwys at werth am arian, gan sicrhau bod pob punt rydyn ni’n ei wario yn darparu’r canlyniadau gorau posibl i’n preswylwyr a’n cymunedau. Mae ein ffocws nid yn unig ar gost, ond ar ansawdd ac effaith y gwasanaethau rydym yn eu darparu. Mae hyn yn golygu ein bod yn ystyried sut mae adnoddau yn cael eu defnyddio i wella cartrefi, cefnogi preswylwyr a chryfhau cymunedau.

Mae gwerth am arian wedi’i ymgorffori yn y ffordd rydym yn cynllunio, gwneud penderfyniadau a darparu gwasanaethau. Rydym yn defnyddio cyfuniad o wybodaeth am berfformiad, cost a boddhad preswylwyr i ddeall pa mor dda y mae gwasanaethau yn gweithio a sut y gellir eu gwella. Cefnogir hyn gan adroddiadau rheolaidd i’n Bwrdd, gan roi gorolwg clir iddynt a sicrhau bod gwerth am arian yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol.

Mae gennym ni hefyd ymagwedd gyson a thryloyw at gaffael, gan wneud yn siŵr ein bod yn cyflawni’r cydbwysedd cywir rhwng cost, ansawdd a gwerth cymdeithasol. Mae hyn yn ein helpu i ddarparu gwasanaethau sy’n diwallu anghenion preswylwyr wrth gefnogi buddion ehangach i’r gymuned. Cefnogir y fath ymagwedd gan adolygiadau a gwelliannau parhaus, ac mae cynlluniau gweithredu clir ar waith i gryfhau’r ffordd rydym yn darparu gwerth.

Mae gwrando ar breswylwyr yn chwarae rhan bwysig yn hyn. Defnyddir adborth, gan gynnwys barn ar renti a thaliadau am wasanaeth, i lywio penderfyniadau a siapio ein blaenoriaethau. Ochr yn ochr â hyn, mae trefniadau mewnol o ran archwilio a llywodraethu yn rhoi sicrwydd ein bod yn defnyddio adnoddau’n effeithiol ac yn cyflawni ein hymrwymiadau.

Safon 7: Cynllunio a rheoli ariannol

Gwyrdd cydymffurfio

Rydym yn cynllunio ar gyfer y tymor byr, canolig a’r tymor hir, i wneud yn siŵr ein bod yn parhau i fod yn gadarn yn ariannol. Mae hyn yn ein galluogi i fuddsoddi yn y cartrefi sydd gennym ni eisoes, ac adeiladu rhai newydd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Rydym yn adolygu ein cynlluniau yn rheolaidd ac yn rheoli risgiau fel y gallwn barhau i gyflawni ein hymrwymiadau.

Crynodeb

Mae gan Hedyn fesurau cryf ar waith o ran cynllunio a rheolaeth ariannol, i gefnogi ein cynaliadwyedd yn y tymor hir, a chyflawni ein pwrpas. Mae ein cynlluniau ariannol yn cyd-fynd yn agos â’n strategaeth, gan sicrhau y gallwn fuddsoddi yn y cartrefi sydd gennym ni eisoes, adeiladu cartrefi newydd a darparu gwasanaethau o ansawdd uchel. Mae’r cynlluniau hyn yn cael eu datblygu trwy ddull strwythuredig sy’n cysylltu blaenoriaethau, adnoddau a buddsoddiadau tymor hir.

Rydym yn monitro ein perfformiad ariannol yn rheolaidd ac yn adrodd hyn yn glir i’n Bwrdd. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth fanwl am gyllidebau, rhagolygon ac unrhyw newidiadau, gan ein galluogi i ymateb yn gyflym i risgiau neu bwysau sy’n dod i’r amlwg. Ochr yn ochr â hyn, rydym yn adolygu rhagdybiaethau ariannol allweddol yn fanwl, i sicrhau bod ein cynlluniau yn parhau i fod yn realistig ac yn wydn.

Rydym yn ariannol hyfyw yn y tymor byr, canolig a hir. Rydym yn rheoli ein cyllid yn ofalus ac yn cynnal perthynas gref â benthycwyr, gan sicrhau bod gennym yr adnoddau a’r hyblygrwydd i gyflawni ein hymrwymiadau. Rydym yn monitro ein cyfamodau ariannol yn agos ac yn bodloni’r gofynion y cytunwyd arnynt gyda’n cyllidwyr yn gyson.

Rydym hefyd yn cynllunio ar gyfer ansicrwydd. Trwy gynnal profion straen a chynllunio sefyllfaoedd, rydym yn asesu sut y byddai ein cyllid yn perfformio o dan amodau gwahanol ac yn cymryd camau i reoli risgiau lle bo angen. Mae hyn yn ein helpu i wneud penderfyniadau gwybodus a pharhau i fod yn wydn mewn byd sy’n newid ac yn heriol.

Mae ein strategaeth rheoli’r trysorlys yn cefnogi hyn i gyd, gan sicrhau ein bod yn rheoli benthyciadau, buddsoddiadau a llif arian yn effeithiol. Gyda’i gilydd, mae’r trefniadau hyn yn rhoi hyder bod Hedyn yn gryf yn ariannol, wedi’i reoli’n dda ac yn gallu parhau i gyflawni ar gyfer ein preswylwyr, yn awr ac yn y dyfodol.

Safon 8: Asedau a rhwymedigaethau

Gwyrdd cydymffurfio

Mae gennym ddealltwriaeth glir o’r cartrefi rydyn ni’n berchen arnynt a sut maen nhw’n perfformio. Mae hyn yn ein helpu i wneud penderfyniadau gwybodus am fuddsoddi a gwelliannau yn y dyfodol. Trwy reoli ein hasedau’n dda, gallwn wneud y mwyaf o’u gwerth a chefnogi ein nodau tymor hir.

Crynodeb

Mae Hedyn yn rheoli ei chartrefi a’i hasedau mewn ffordd sy’n cefnogi ein cynaliadwyedd yn y tymor hir, a sicrhau’r canlyniadau gorau i breswylwyr a chymunedau. Rydym yn cadw cofnod cywir o’n cartrefi a’n hasedau, ac yn diweddaru’r cofnod hwn. Mae hyn yn ein helpu i wneud penderfyniadau gwybodus am fuddsoddi, gwella a chynllunio yn y dyfodol. Mae ein Bwrdd yn mynd ati’n rheolaidd i adolygu’r wybodaeth hon, sy’n golygu bod yna oruchwyliaeth ac atebolrwydd cadarn.

Mae gennym ymagwedd glir, a hynny’n seiliedig ar dystiolaeth, er mwyn deall sut mae ein cartrefi yn perfformio. Mae hyn yn cynnwys ystyried ffactorau ariannol, technegol a chymunedol fel y gallwn nodi ble bydd buddsoddi yn creu’r effaith fwyaf. Os nad yw cartrefi neu ardaloedd yn perfformio cystal ag y dylent, rydym yn ystyried ystod o opsiynau – o welliannau wedi’u targedu ac adfywio i gynlluniau ailddatblygu tymor hwy. Mae hyn yn sicrhau ein bod yn gwneud penderfyniadau cytbwys sy’n cefnogi anghenion ar hyn o bryd a’r blaenoriaethau yn y dyfodol.

Mae ein hasedau yn chwarae rhan bwysig o ran cyflawni ein pwrpas cymdeithasol. Yn ogystal â darparu cartrefi o ansawdd da, rydym hefyd yn defnyddio ein hasedau ehangach i gefnogi cymunedau a chynhyrchu gwerth y gellir ei ail-fuddsoddi mewn gwasanaethau. Mae gennym ymagwedd gyfrifol at hyn, gyda chyfyngiadau clir ar waith i reoli unrhyw risg fasnachol a diogelu ein gwasanaethau tai craidd.

Rydym yn parhau i gryfhau’r hyn rydyn ni’n ei ddeall am ein cartrefi trwy ddata gwell a pharhau i gynllunio buddsoddiadau. Mae hyn yn helpu i lunio ein cynlluniau rheoli asedau a datgarboneiddio yn y tymor hir.

Gyda’i gilydd, mae’r trefniadau hyn yn sicrhau ein bod yn defnyddio ein hasedau i’r eithaf, yn cadw cartrefi yn ddiogel ac yn gynaliadwy, ac yn cefnogi cymunedau ffyniannus nawr ac yn y dyfodol.

Safon 9: Llety o ansawdd uchel

Gwyrdd cydymffurfio

Mae cadw preswylwyr yn ddiogel yn flaenoriaeth inni. Rydym yn sicrhau bod ein cartrefi yn bodloni’r holl safonau gofynnol o ran diogelwch ac ansawdd, ac rydyn ni’n gweithredu’n gyflym os oes angen sylw ar rywbeth. Trwy fuddsoddi a chynnal gwiriadau parhaus, rydym yn gweithio i ddarparu cartrefi y gall pobl deimlo’n falch ohonynt.

Crynodeb

Mae Hedyn wedi ymrwymo i ddarparu cartrefi diogel o ansawdd uchel sy’n bodloni’r holl safonau perthnasol ac yn cefnogi preswylwyr i fyw’n dda. Rydym yn sicrhau bod ein cartrefi yn cydymffurfio â’r holl ofynion cyfreithiol a rheoleiddiol, gan gynnwys Safon Ansawdd Tai Cymru. Mae ein holl gartrefi ar hyn o bryd yn bodloni’r safon hon (ac eithrio methiannau derbyniol), ac rydym yn parhau i fuddsoddi i fodloni’r gofynion a ddiweddarwyd. Rydym yn monitro ac yn adrodd yn rheolaidd ar ansawdd, cyflwr a buddsoddiadau i sicrhau bod ein cartrefi yn parhau i fod yn ddiogel, yn gyfforddus ac yn addas ar gyfer y dyfodol.

Cadw preswylwyr yn ddiogel yw ein prif flaenoriaeth. Mae gennym drefniadau cryf ar waith i reoli pob maes iechyd a diogelwch i landlordiaid, gan gynnwys tân, nwy, diogelwch trydanol a lleithder a llwydni. Mae ein perfformiad yn cael ei fonitro’n agos trwy adroddiadau rheolaidd a goruchwyliaeth arbenigol, gan ein helpu i nodi unrhyw broblemau a mynd i’r afael â nhw yn gyflym ac yn effeithiol.

Rydym yn sicrhau ein bod yn deall cyflwr diweddaraf ein cartrefi drwy gynnal arolygon parhaus a mynd ati’n barhaus i ddadansoddi data. Mae hyn yn ein galluogi i gynllunio’r buddsoddi lle mae ei angen fwyaf, gan gynnwys gwella effeithlonrwydd ynni a lleihau allyriadau carbon. Mae ein cynlluniau hirdymor yn sicrhau ein bod yn parhau i fuddsoddi mewn cartrefi fel eu bod yn parhau i fod yn ddiogel, yn gynaliadwy ac yn fforddiadwy.

Mae gennym agwedd rhagweithiol at nodi risgiau a’u datrys. Os bydd unrhyw broblemau’n codi, rydym yn gweithredu’n gyflym i wneud pethau’n iawn ac yn dysgu oddi wrthynt i wella ein gwasanaethau. Trwy fesurau llywodraethu cryf, goruchwyliaeth glir a gwelliannau parhaus, rydym yn sicrhau bod ein cartrefi yn darparu amgylchedd diogel o ansawdd uchel i breswylwyr nawr ac yn y dyfodol.

Gan Everglow Nôl adref Chwiliwch yma Mae pobl yn aml yn chwilio am