English
English

Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Yn Hedyn, rydym yn gwybod nad hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn unig yw’r peth iawn i’w wneud, mae’n helpu pobl a chymunedau i ffynnu o ddifri. Pan fydd pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu parchu, a bod yn nhw eu hunain, gallant gyrraedd eu potensial llawn – creu cymunedau cryfach, mwy cysylltiedig heddiw, a dyfodol tecach ar gyfer cenedlaethau i ddod.

Dyna pam mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wrth wraidd popeth yr ydym yn wneud. Mae Addewid Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Hedyn yn nodi ein hymrwymiad i greu diwylliant lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu clywed, eu cefnogi a’u bod yn gallu llwyddo, gan adlewyrchu’r hyn sydd fwyaf pwysig i’n cymunedau, ein trigolion a’n cydweithwyr.

Rydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb, cael gwared ar rwystrau, a sicrhau profiadau teg, cynhwysol i bawb. Mae hyn yn cynnwys cynllunio gwasanaethau’n seiliedig ar lais sy’n cynrychioli cwsmeriaid, gwella cynrychiolaeth, meithrin partneriaethau cynhwysol, a sicrhau ffyrdd diogel i bobl siarad.

Nid ydym yn goddef casineb, gwahaniaethu a bwlio, ac mae hyn i gyd yn seiliedig ar dystiolaeth, dealltwriaeth, a gwrando ar ein cymunedau.

Trwy ymgorffori cynhwysiant yn ein gwasanaethau, ein dulliau rheoli a’n diwylliant, a gweithio gyda phartneriaid i ddysgu a gwella; rydym yn cymryd camau ystyrlon tuag at ddyfodol mwy cynhwysol a thecach i bawb.

Ein haddewid

Mi fyddwn yn rhagweithiol, yn llawn pwrpas ac yn ddeinamig:

  • Gosod y safon o ran cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant—gan sbarduno newid cadarnhaol o fewn Hedyn a thu hwnt.
  • Ymateb mewn modd deinamig i anghenion cymdeithas sy’n esblygu, gan ddefnyddio’n dylanwad i daclo anghydraddoldebau a chyflawni atebion hyblyg.

Byddwn yn meithrin diwylliant cynhwysol, lle mae pob cydweithiwr yn teimlo ei fod yn cael ei glywed:

  • Creu amgylcheddau diogel, hygyrch a chefnogol i bawb.
  • Cynyddu’r hyn rydyn ni’n ei ddeall am leisiau yr ydym ni prin yn eu clywed, a chynyddu cynrychiolaeth trwy recriwtio mewn modd cynhwysol.
  • Rydym yn ymrwymo i ddysgu, gwella a dathlu cynnydd ar ein taith at gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu profiadau teg i bob preswylydd drwy:

  • Gynllunio gwasanaethau’n seiliedig ar lais sy’n cynrychioli cwsmeriaid, gan sicrhau bod hyn yn adlewyrchu anghenion pawb.
  • Meithrin partneriaethau cryf a chynnig opsiynau gweladwy, cynhwysol sy’n cefnogi cymunedau ffyniannus.
  • O ran caffael a chyflenwi, sicrhau bod ein partneriaid yn rhannu ein gwerthoedd ac yn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb.

Ni fyddwn yn goddef casineb, gwahaniaethu a bwlio:

  • Rydym yn annog codi llais, ac rydym wedi ymrwymo i ddarparu ffyrdd diogel a hygyrch i roi gwybod am bryderon
  • Byddwn yn cynyddu hyder ar bob lefel wrth ddelio â digwyddiadau sy’n gysylltiedig â chasineb
  • Cydnabod a dathlu gwahaniaeth ac amrywiaeth

Byddwn yn dryloyw, yn atebol, ac yn cael ein gyrru gan ddealltwriaeth:

  • Gosod uchelgeisiau uchel, adrodd yn rheolaidd ar gynnydd, a chydweddu â Strategaeth Hedyn.
  • Defnyddio tystiolaeth ac adborth i gynllunio a gwella gwasanaethau yn seiliedig ar anghenion pobl.
  • Sicrhau uniondeb wrth wneud penderfyniadau trwy ddadansoddi ac achredu cadarn, a gwelliannau parhaus.

Cynaliadwyedd amgylcheddol

Mae ein Haddewid Cynaliadwyedd Amgylcheddol yn nodi ein hymrwymiad i sut y byddwn yn gweithio gyda phreswylwyr i greu cartrefi, cymunedau a dyfodol cynaliadwy.

Mwy o wybodaeth

Newyddion diwedderaf

Gweld y newyddion i gyd
New hedyn website displays on a mobile phone.
Hedyn

Croeso i wefan Hedyn ar ei newydd wedd ac yn well nag erioed!

Rhagor o wybodaeth
Hedyn

Hedyn yn croesawu dyfarniad rheoleiddiol gwyrdd/gwyrdd yn sgil cyfuno dwy gymdeithas

Rhagor o wybodaeth
Preswylwyr

Mae pob ceiniog yn cyfrif – disgowntiau yn ystod gwyliau ysgol a hwb cynilo

Rhagor o wybodaeth
Gan Everglow Nôl adref Chwiliwch yma Mae pobl yn aml yn chwilio am