Rhannu perchnogaeth – gwerthu eich cyfran
Os oes gennych les ranberchnogaeth, mae yna gamau y mae angen i chi eu dilyn er mwyn gwerthu eich cartref.
Cysylltwch â ni pan fyddwch chi’n penderfynu gwerthu, er mwyn i ni eich cynghori chi am eich opsiynau a beth sydd angen i chi ei wneud.
Os oes gennych les o dan Rhanberchnogaeth Cymru, dyma’r camau penodol:
- Bydd angen i chi gael syrfëwr RICS i brisio eich cartref i gadarnhau pa bris y gallwch werthu eich cyfran. Bydd angen copi o’r prisiad arnom.
- Efallai y byddwn yn gallu dod o hyd i brynwr – os na, bydd angen i chi ddod o hyd i asiant tai i werthu eich cartref.
- Unwaith y bydd gennych gwmni gwerthu tai, rhowch wybod i ni. Byddwn yn rhoi gwybodaeth iddynt am y cymhwystra ar gyfer rhanberchnogaeth.
- Yna bydd angen i ni asesu unrhyw ddarpar brynwyr er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni meini prawf cynllun Rhanberchnogaeth Cymru ac yn gallu fforddio prynu. Dim ond prynwr yr ydym wedi’i gymeradwyo all fwrw ymlaen â phrynu eich cartref.
- Pan fyddwn wedi cymeradwyo prynwr, bydd angen manylion cyfreithwyr arnom a byddwn yn anfon Memorandwm Gwerthu atoch chi, eich prynwr a’ch cyfreithwyr – mae hyn yn crynhoi pwy yw’r gwerthwr a’r prynwr, manylion yr eiddo a’r pris gwerthu.
Rhaid i ni gymeradwyo cynnig morgais eich prynwr cyn i’r gwerthiant gael ei gwblhau fel bod eu benthyciwr yn cael ei ddiogelu gan gymalau yn y les.
Lesddeiliaid sydd â pherchnogaeth lawn
Os ydych chi’n berchen ar 100% o’ch eiddo, efallai y bydd angen i chi gynnig eich cartref nôl i ni yn gyntaf cyn i chi ei werthu ar y farchnad agored – bydd eich les yn dweud os oes rhaid i chi wneud hyn neu cysylltwch â ni a byddwn yn gallu rhoi gwybod i chi.
Os wnaethoch chi brynu eich cartref gyda gostyngiad trwy’r cynlluniau Hawl i Brynu neu Hawl i Gaffael yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf, efallai y bydd angen i chi ad-dalu rhywfaint o’r gostyngiad a gawsoch.
Cysylltwch â ni os nad ydych yn siŵr a gallwn gadarnhau’r swm, os oes angen.
Os oes gennych les sydd â chyfnod sy’n dod i ben mewn llai nag 80 i 85 mlynedd, efallai y cewch drafferth gwerthu os nad ydych chi’n ymestyn y les.
Darganfyddwch fwy am ymestyn eich les.
Beth sy’n digwydd pan fyddwch yn gwerthu
Here’s what to expect when you sell your lease:
Dyma beth i’w ddisgwyl pan fyddwch chi’n gwerthu eich les:
- Os ydych chi’n rhannu perchnogaeth, byddwch yn siarad â ni am werthu i ddechrau, ac yn trafod eich opsiynau.
- Os ydych chi’n gwsmer Rhanberchnogaeth Cymru, rhaid i’ch prynwr gael ei gymeradwyo gennym ni cyn y gallwch chi fwrw ymlaen i werthu, ac mae hyn yn cynnwys eu cynnig morgais.
- Bydd eich cyfreithiwr yn gofyn i ni am wybodaeth am eich eiddo, yr adeilad, a’r taliadau gwasanaeth neu daliadau rhent. Rydym yn codi ffi am ddarparu’r wybodaeth hon.
- Mae angen i’ch cyfrif fod yn glir heb unrhyw arian yn ddyledus i ni. Byddwn yn rhoi gwybod i’ch cyfreithiwr os oes unrhyw rent neu ffioedd gwasanaeth yn ddyledus a bydd angen talu’r rhain cyn cwblhau’r gwerthiant.
- Pan fydd y gwerthiant wedi’i gwblhau, mae angen i gyfreithiwr eich prynwr anfon hysbysiad ffurfiol atom i ddweud wrthym, ac efallai y bydd angen tystysgrif gennym ar gyfer y Gofrestrfa Tir. Rydym yn codi ffi am hyn.
- Efallai y bydd ffioedd gwasanaeth yn ddyledus am gyfnod pan oeddech chi’n berchennog ac nad ydym wedi anfonebu ar eu cyfer erbyn i chi werthu. Byddwn yn dweud wrth eich cyfreithiwr am y rhain a dylent sicrhau eu bod yn cytuno gyda’r prynwr sut y byddant yn cael eu talu. Yn aml bydd cyfreithiwr y prynwr yn dal rhywfaint o arian yn ôl i dalu anfonebau sydd ddim wedi cael eu cyhoeddi eto.
Os hoffech werthu neu os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â gwerthu eich cartref lesddaliad neu rhanberchnogaeth, anfonwch neges trwy e-bost i home.ownership@hedyn.wales.
Neu cysylltwch â’n Hwb Profiadau Cwsmeriaid am gyngor.
Cysylltu â ni
Os hoffech werthu neu os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â gwerthu eich cartref lesddaliad neu rhanberchnogaeth, anfonwch neges trwy e-bost i home.ownership@hedyn.cymru
Neu cysylltwch â’n Hwb Profiadau Cwsmeriaid am gyngor.
Cysylltwch â ni