English
English

Lesddeiliaid a rhannu perchnogaeth

Os ydych chi’n berchen ar fflat neu’n rhannu perchnogaeth, bydd gennych les. Mae eich les yn nodi’r hyn rydych chi’n berchen arno a beth yw’ch cyfrifoldebau. Mae hefyd yn nodi ein cyfrifoldebau ni fel eich landlord.

Cewch bopeth sydd angen i chi ei wybod am fod yn lesddeiliad neu rannu perchnogaeth dros gartref gan Hedyn.

Rhanberchnogaeth

Mae rhanberchnogaeth yn eich helpu i gamu ar yr ysgol eiddo trwy adael i chi dalu am gyfran mewn eiddo, gyda’r opsiwn o brynu’r gyfran sy’n weddill yn nes ymlaen. Rydych chi’n .talu rhent ar y gyfran nad ydych chi’n ei phrynu ac mae’r rhent hwn yn gostwng wrth i chi dalu am fwy o gyfran. Rydyn ni’n cyfeirio at brynu mwy o gyfran trwy ddweud eich bod yn ‘dringo’r grisiau’.

Cwestiynau cyffredin

Byddwch yn cael eich cofrestru fel perchennog gweithred y lesddaliad gyda’r Gofrestrfa Tir.

Mae’r rhent yn cael ei osod ar ddechrau’r les ranberchnogaeth. Mae’n ganran o werth yr eiddo. Dim ond unwaith y flwyddyn y mae’r rhent yn codi ac mae’r cynnydd hwn yn seiliedig ar naill ai’r Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI) neu’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI).

Os ydych chi’n dringo’r grisiau, mae swm y rhent rydych chi’n ei dalu yn gostwng

Os ydych chi eisiau gwneud addasiadau neu newidiadau strwythurol i’ch cartref, cysylltwch â ni yn gyntaf i gael ein caniatâd.
Gall addasiadau neu newidiadau strwythurol gynnwys pethau fel:

  • adeiladu estyniad neu dŷ haul
  • ymestyn i mewn i’r llofft
  • tynnu wal i lawr
  • cegin neu ystafell ymolchi newydd

Efallai bod cyfyngiadau ar eich les o ran yr hyn y gallwch ei wneud a’r hyn na allwch ei wneud felly dylech wirio hyn. Efallai y bydd gofynion neu reolau cynllunio eraill hefyd sy’n effeithio ar eich adeilad neu’ch ystâd.

Does dim angen ein caniatâd arnoch ar gyfer newidiadau bach fel addurno neu osod silffoedd.

Rydyn ni’n darparu yswiriant adeiladau ar gyfer fflatiau lesddaliad a rhai cartrefi rhanberchnogaeth.

Os ydych chi’n berchen ar gartref rhanberchnogaeth efallai y bydd eich les yn rhoi cyfrifoldeb i chi am drefnu eich yswiriant adeiladau eich hun – os nad ydych yn siŵr, cysylltwch â ni. Mae cost eich yswiriant adeiladau ac unrhyw wasanaethau rydyn ni’n eu darparu ar gyfer y bloc os ydych chi’n byw mewn fflat, yn cael eu talu trwy dâl gwasanaeth.

Os ydym yn darparu’r yswiriant adeiladau ac mae angen i chi wneud hawliad am golled neu ddifrod, cysylltwch â ni a chysylltwch â’r cwmni yswiriant yn uniongyrchol i wneud eich hawliad.

Nid yw’r polisi yn cynnwys y £100 cyntaf ar gyfer unrhyw hawliad ac mae’n codi i £250 ar gyfer ymsudd, gwthiad neu dirlithriad. Mae hyn yn golygu, os ydych chi’n gwneud hawliad, ni fyddai’r £100 neu’r £250 cyntaf yn cael ei dalu a byddai angen i chi ariannu’r gyfran hon o’r gost eich hun.

Oes, bydd angen i chi ddarparu eich yswiriant eich hun ar gyfer cynnwys eich cartref.

Mae ymestyn les yn ffordd o ychwanegu mwy o flynyddoedd at eich les a gall hynny gynyddu ei gwerth a’i gwneud yn haws i chi werthu a chael ail forgais.

Cewch ragor o wybodaeth am ymestyn eich les a sut i wneud cais i ymestyn eich les.

Os ydych chi’n Rhanberchennog, fel arfer gallwch dalu am fwy o gyfran o’ch eiddo. Mae’r pris am fwy o gyfran yn seiliedig ar werth yr eiddo ar y farchnad ar yr adeg rydych chi am ddringo’r grisiau.

Mae’r rhan fwyaf o lesau yn gadael ichi ddringo’r grisiau tan i chi fod yn berchnogaeth llawn, er y gall rhai prydlesi fod â chyfyngiadau. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni yn homes@hedyn.cymru.

Trwsio cartrefi lesddaliad a rhanberchnogaeth

Os ydych chi'n lesddeiliad neu'n rhannu perchnogaeth, byddwch yn gyfrifol am reoli rhai atgyweiriadau neu waith cynnal a chadw penodol ar gyfer eich cartref.

Mwy o wybodaeth

Ymestyn eich les

Mae ymestyn les yn ffordd o ychwanegu mwy o flynyddoedd at eich les a gall hynny gynyddu ei gwerth a'i gwneud yn haws i chi werthu a chael ail forgais.

Mwy o wybodaeth

Is-osod eich cartref

Cewch ragor o wybodaeth am is-osod eich cartref lesddaliad neu ranberchnogaeth, gan gynnwys y camau sy'n gysylltiedig a'ch cyfrifoldebau.

Mwy o wybodaeth

Gwerthu eich cartref

P'un ai ydych chi'n rhannu perchnogaeth neu'n berchen ar 100% o'ch les, darganfyddwch sut i fynd ati i werthu eich eiddo.

Mwy o wybodaeth

Prynu cartref

Rydyn ni’n cynnig sawl ffordd i’ch helpu i brynu eich cartref eich hun, gan gynnwys cynlluniau perchentyaeth cost isel a rhannu perchnogaeth.

Mwy o wybodaeth
One of our helpful advisors taking a call in our contact centre.

Cysylltwch â ni

P’un a ydych yn breswylydd newydd neu eisiau mwy o wybodaeth am Hedyn, bydd ein Hwb Profiad Cwsmeriaid yn fwy na pharod i’ch helpu.

Cysylltu â Hedyn 0300 1212 345 WhatsApp
Gan Everglow Nôl adref Chwiliwch yma Mae pobl yn aml yn chwilio am