English
English

Is-osod eich cartref

Lesddeiliaid

Os ydych chi’n lesddeiliad ac rydych chi’n berchen ar 100% o’ch eiddo, bydd angen i chi gysylltu â ni os ydych chi’n bwriadu gosod eich cartref allan i rywun arall. Bydd angen i ni wybod:

  • eich cyfeiriad gohebu newydd
  • y manylion cyswllt sydd orau gennych
  • pwy i gysylltu â nhw os oes problem gyda’ch eiddo neu’r sawl sy’n byw yn eich eiddo

Eich rhwymedigaethau

Bydd gofyn i chi:

  • Sicrhau eich bod wedi cofrestru fel landlord gyda Rhentu Doeth Cymru neu asiant cofrestredig arall.
  • Sicrhau bod eich eiddo yn bodloni gofynion Llywodraeth Cymru er mwyn eich bod chi’n cael ei osod allan.
  • Cynnwys yr un cyfyngiadau ynghylch sut y gellir defnyddio’r eiddo neu sut na ellir ei ddefnyddio, ag yn eich les gyda’r contract meddiannaeth rydych chi’n ei ddefnyddio.
  • Dal i fod yn gyfrifol am eich eiddo ac am ymddygiad y preswylydd sy’n byw ynddo, felly sicrhewch eu bod yn deall beth y gallant ei wneud a beth na allant ei wneud.
  • Dal i fod yn gyfrifol am dalu unrhyw rent, yswiriant adeiladau a thaliadau gwasanaeth i ni, ac am sicrhau y cedwir at yr holl amodau a thelerau yn eich les – hyd yn oed os nad ydych chi’n byw yno.

Pethau eraill i’w hystyried

  • Efallai y bydd angen i chi gael caniatâd eich darparwr morgais gan y gallai fod yn amod o’ch morgais eich bod yn byw yn yr eiddo.
  • Dylech ystyried defnyddio asiant gosod ag enw da i ddod o hyd i breswylydd oherwydd gall gynnal gwiriadau i wneud yn siŵr eu bod yn gallu fforddio’r rhent.
  • Dylech sicrhau bod gennych yswiriant landlord.
  • Dylech holi’r cwmni sy’n darparu eich yswiriant ar gyfer cynnwys y cartref am yr yswiriant maen nhw’n ei ddarparu.
  • Chi sy’n gyfrifol am ddeiliad eich contract. Byddwn yn cysylltu â chi os oes unrhyw broblemau.

Rhannu perchnogaeth

Dydy les rhanberchnogaeth ddim yn caniatáu is-osod gan mai’r bwriad yw fod y rhan berchennog yn byw yn yr eiddo. Ond, mewn amgylchiadau eithriadol, efallai y byddwn yn cytuno i is-osod am gyfnod cyfyngedig o amser ac yn amodol ar amodau penodol, gan gynnwys defnyddio asiant gosod i reoli’r eiddo.

Cysylltwch â ni
Gan Everglow Nôl adref Chwiliwch yma Mae pobl yn aml yn chwilio am