Os ydych chi’n lesddeiliad neu’n rhannu perchnogaeth, byddwch yn gyfrifol am reoli rhai atgyweiriadau neu waith cynnal a chadw penodol ar gyfer eich cartref.
Bydd eich les yn esbonio pa atgyweiriadau a gwaith cynnal a chadw rydych chi’n gyfrifol amdanynt a beth rydyn ni’n gyfrifol amdano. Os nad oes gennych gopi o’ch les, cysylltwch â ni a gallwn anfon copi atoch, neu gallwch ei gael yn uniongyrchol o’r Gofrestrfa Tir.
Atgyweiriadau i berchentywyr
Os ydych chi’n berchen ar dŷ, byddwch chi’n gyfrifol am yr holl waith trwsio a chynnal a chadw i’ch eiddo, y tu mewn a’r tu allan. Mae hyn yn cynnwys unrhyw fannau tu allan rydych chi’n berchen arnynt, fel gardd, garej neu le parcio.
Atgyweiriadau i berchnogion fflatiau
Os ydych chi’n berchen ar fflat, fel arfer rydych chi’n gyfrifol am drwsio a chynnal a chadw popeth y tu mewn i’ch fflat a phethau fel pibellau, gwifrau, gerddi neu fannau parcio sy’n eiddo i chi neu sy’n gwasanaethu eich eiddo.
Ar gyfer blociau o fflatiau, fel arfer rydyn ni’n gyfrifol am gynnal a chadw:
- rhannau cymunol yr adeilad fel coridorau, grisiau a lifftiau
- strwythur yr adeilad a thu allan i’r adeilad, fel y to, gwteri a waliau allanol
- rhannau allanol yr ystâd, fel gerddi a rennir neu ardaloedd wedi’u tirlunio, mannau storio biniau a mynedfeydd neu lwybrau a rennir
Er ein bod yn gyfrifol am wneud rhai atgyweiriadau, rydych chi’n gyfrifol am dalu eich cyfran o’r gost. Mae’r costau hyn wedi’u cynnwys yn eich tâl gwasanaeth blynyddol.
Bydd eich les yn dweud beth yn union sydd wedi’i gynnwys yn eich eiddo a beth rydych chi’n gyfrifol amdano, felly gwiriwch fanylion eich les.
Atgyweiriadau preswylwyr
Os ydych chi’n rhentu eich cartref wrth Hedyn, darllenwch am ein gwasanaeth atgyweirio i breswylwyr, gan gynnwys sut i drefnu atgyweiriad ar-lein.
Mwy o wybodaeth
Cysylltwch â ni
P’un a ydych yn breswylydd newydd neu eisiau mwy o wybodaeth am Hedyn, bydd ein Hwb Profiad Cwsmeriaid yn fwy na pharod i’ch helpu.
Cysylltu â Hedyn hello@hedyn.cymru 0300 1212 345 WhatsApp