Mae ymestyn les yn ffordd o ychwanegu mwy o flynyddoedd at eich les a gall hynny gynyddu ei gwerth a’i gwneud yn haws i chi werthu a chael ail forgais.
Pan fydd gennych estyniad i’ch les, byddwch yn cael les newydd am dymor eich les bresennol ynghyd â 90 mlynedd ac mae unrhyw rent tir yn cael ei ostwng i sero (a elwir yn ‘rent hedyn pupur’). Os ydych chi’n rhannu perchnogaeth, rhaid i chi dalu rhent o hyd.
Beth yw manteision ymestyn les?
Trwy ychwanegu rhagor o flynyddoedd at eich les, gallwch gynyddu gwerth eich eiddo a’i gwneud hi’n haws gwerthu neu gael ail forgais.
Wrth i’ch les fynd yn fyrrach, gall leihau mewn gwerth ac mae benthycwyr yn llai tebygol o fod eisiau benthyca yn ei herbyn. Mae gan bob benthyciwr eu gofynion eu hunain, ac efallai y bydd rhai eisiau mwy nag 85 mlynedd ar y les, ond efallai y bydd eraill yn hapus gyda llai na hyn. Dylech siarad â’ch benthyciwr neu frocer morgeisi am ragor o wybodaeth.
Pan fydd llai nag 80 mlynedd ar ôl ar eich les, mae’r gost o’i hymestyn yn cynyddu’n sylweddol. Felly, mae’n syniad da dechrau meddwl am ymestyn eich les cyn y pwynt hwnnw.
Mae yna ddau lwybr er mwyn ymestyn les – llwybr ffurfiol a llwybr anffurfiol.
Newidiadau i lesddaliad
Bydd newidiadau i ymestyn les o dan Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024. Mae angen deddfwriaeth bellach er mwyn cyflwyno’r newidiadau, ond mae yna fwriad i leihau cost ymestyn les, gwneud y broses yn haws i lesddeiliaid a chynyddu’r tymor a ychwanegir i 990 mlynedd (i fyny o’r 90 mlynedd sy’n cael eu hychwanegu ar hyn o bryd).
Allwn ni ddim dweud wrthych pryd fydd y newidiadau hyn yn dod i rym na ph’un ai y dylech fwrw ymlaen nawr neu aros. Mynnwch eich cyngor eich hun am hyn. Gallwch gael hyd i wybodaeth ddefnyddiol am hyn ar wefan y Gwasanaeth Cynghori ar Lesddaliadau.
Ewch i’r Gwasanaeth Cynghori ar Lesddaliadau
Llwybr ymestyn anffurfiol
Rydyn ni’n hapus i ystyried ceisiadau am estyniad i’ch les ar sail anffurfiol. Dydyn ni ddim yn gallu cytuno bob tro, ond byddwn yn rhoi’r rheswm i chi os na allwn ni gytuno.
Sut i ymgeisio
I ddechrau’r broses, cysylltwch â ni i roi gwybod i ni eich bod am ymestyn eich les gan ddefnyddio’r llwybr anffurfiol. Byddwn yn gwirio ein bod yn gallu cynnig estyniad ac yn cadarnhau hyn gyda chi.
Os allwch chi fwrw ymlaen, bydd angen i chi dalu ffi ein syrfëwr fel y gallwn gael prisiad i sefydlu’r premiwm sy’n daladwy. Allwch chi ddim cael y ffi hon yn ôl os ydych yn penderfynu peidio â bwrw ymlaen.
Pan fydd gennym yr adroddiad prisio, byddwn yn cadarnhau’r premiwm a thelerau’r les newydd. Gallai hyn gynnwys amrywiadau i’ch les a fyddai’n rhesymol yn ein barn ni. Bydd y les newydd am gyfnod eich les bresennol ynghyd â 90 mlynedd arall.
Cytuno ar yr estyniad
Os ydych chi am fwrw ymlaen ar y telerau rydyn ni’n eu cynnig, rhowch wybod i ni a rhowch fanylion eich cyfreithiwr i ni hefyd. Gofynnir i’ch cyfreithiwr am ymrwymiad cyfreithiol i gadarnhau y byddant yn talu ffioedd ein cyfreithiwr ni ar ôl cwblhau’r trafodion. Os penderfynwch beidio â bwrw ymlaen â’r estyniad, bydd angen i chi dalu ffioedd ein cyfreithiwr am y gwaith maen nhw wedi’i wneud hyd at y pwynt hwnnw.
Bydd ein cyfreithiwr yn drafftio’r les newydd ac yn ei hanfon at eich cyfreithiwr i’w gwirio. Pan fyddwn ni wedi cytuno arni, bydd y ddwy ochr yn llofnodi a bydd eich cyfreithiwr yn ei chofrestru gyda’r Gofrestrfa Tir. Ar ôl cwblhau’r les newydd, bydd angen i chi dalu ffioedd ein cyfreithiwr ni, y premiwm ar gyfer estyn y les a hefyd unrhyw rent, taliadau gwasanaeth neu rent tir sy’n weddill.
Anfonwch neges atom trwy e-bost.
E-bostiwch niLlwybr ymestyn ffurfiol
Daw’r hawl gyfreithiol i wneud cais am estyniad les o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Datblygu Trefol 1993 (fel y’i diwygiwyd). Allwch chi ddim dilyn y llwybr ffurfiol os ydych chi’n rhannu perchnogaeth a dydych chi ddim yn berchen ar 100% o’ch eiddo.
Sut i ymgeisio
Bydd angen i chi gyflwyno hysbysiad ffurfiol i ni – yr enw cyffredin ar hyn yw Hysbysiad Adran 42. Mae’n rhaid i’r Hysbysiad hwn gynnwys gwybodaeth benodol felly dylech ddefnyddio cyfreithiwr neu gael cyngor cyfreithiol i sicrhau ei fod yn gywir.
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol am yr hysbysiad ar wefan y Gwasanaeth Cynghori ar Lesddaliadau.
Pan fyddwn yn cael eich Hysbysiad, bydd yn cael ei wirio a bydd ein cyfreithwyr yn ymateb gyda gwrth-hysbysiad ffurfiol o fewn y dyddiad a nodwyd. Gofynnir i chi dalu blaendal o 10% o’r premiwm rydych chi wedi’i gynnig neu £250 (pa un bynnag sydd uwch) ac efallai y bydd ein syrfëwr yn cysylltu â chi i drefnu mynediad i brisio eich eiddo.
Bydd y gwrth-hysbysiad yn cadarnhau a oes gennych yr hawl i estyniad i’r les a bydd hefyd yn cadarnhau a ydym yn derbyn y premiwm rydych yn ei gynnig ac unrhyw amrywiadau rydych chi’n eu cynnig. Os nad ydym yn eu derbyn, bydd y gwrth-hysbysiad yn cyflwyno ein gwrth-gynigion.
Cytuno ar yr estyniad
Os na fyddwch yn derbyn ein gwrth-gynnig, byddwn yn ceisio dod i gytundeb trwy drafodaeth. Os nad ydym yn gallu cytuno o hyd, yna gellir cyfeirio’r mater i’r Tribiwnlys Prisio Lesddaliadau i gael penderfyniad ganddo.
Os byddwch yn derbyn ein gwrthgynnig, neu pan fyddwn wedi dod i gytundeb yn dilyn trafodaethau neu benderfyniad y Tribiwnlys, bydd ein cyfreithwyr yn drafftio’r les newydd. Bydd eich cyfreithiwr yn gweithredu ar eich rhan i wirio’r les a phan gytunir arni bydd y ddwy ochr yn ei llofnodi. Ar ôl cwblhau’r les newydd, byddwch yn gyfrifol am dalu ein ffioedd cyfreithiwr a syrfëwr a bydd angen i chi dalu unrhyw ffioedd gwasanaeth neu rent tir sy’n weddill hefyd.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses ar gyfer ymestyn y les, cysylltwch â ni.
Amcangyfrif o’r costau
Mae’r tabl hwn yn ganllaw i rai o’r costau sy’n gysylltiedig ag ymestyn eich les.
Mynnwch eich dyfynbrisiau eich hun i weld faint fydd cost eich ffioedd cyfreithiwr a syrfëwr.
| Gweithgarwch | Amcangyfrif o'r costau |
|---|---|
Ffi ein cyfreithiwr
| £1,500 a TAW a threuliau – gallai’r costau gynyddu os yw’r mater yn mynd yn fwy cymhleth neu os oes trafodaethau hir. |
Ffi ein syrfëwr | £600 a TAW |
Premiwm ar gyfer y les estynedig newydd | Allwn ni ddim dweud nes bod syrfëwr wedi gwneud prisiad. Gallwch ei amcangyfrif gan ddefnyddio’r teclyn cyfrifo estyniad i les ar gyfer fflat. |