Yn Hedyn, rydym yn gwybod bod gweithio mewn ffordd gynaliadwy nid yn unig yn well i’r blaned, mae’n well i’n preswylwyr. Mae cartrefi cynhesach, biliau ynni is, aer glanach, a lleoedd gwyrddach, i gyd yn cyfrannu at ansawdd bywyd gwell heddiw, wrth ddiogelu lles cenedlaethau’r dyfodol yfory.
Dyna pam mae cynaliadwyedd amgylcheddol wrth wraidd popeth a wnawn. Mae ein Haddewid Cynaliadwyedd Amgylcheddol yn nodi ein hymrwymiad i sut y byddwn yn gweithio gyda phreswylwyr i greu cartrefi, cymunedau a dyfodol cynaliadwy. Mae’n adlewyrchu’r hyn sy’n bwysig i’n preswylwyr; o gartrefi fforddiadwy, sy’n defnyddio ynni’n effeithlon, i fannau awyr agored gwyrddach, a chymdogaethau cryfach a mwy gwydn.
Rydym wedi ymrwymo i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd, wrth wella’r lleoedd y mae ein preswylwyr yn eu galw’n gartref. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod ein cartrefi’n defnyddio ynni’n fwy effeithlon, cefnogi’r gwaith o weithredu’n lleol ar yr hinsawdd, gwarchod natur a bioamrywiaeth, hyrwyddo teithio cynaliadwy, a sicrhau bod ein penderfyniadau yn cael eu llywio gan dystiolaeth, dealltwriaeth ac adborth.
Trwy ymgorffori cynaliadwyedd yn ein gwasanaethau, mesurau rheoli a’n diwylliant, a thrwy weithio gyda phartneriaid i arloesi a datblygu sgiliau newydd, rydym yn cymryd camau ymarferol i adeiladu dyfodol iachach, gwyrddach i bawb.
Ein haddewid
Amddiffyn yfory trwy ddylunio heddiw.
I’n preswylwyr a’n cymunedau
Mae popeth yr ydym yn ei wneud yn cael ei lywio gan lais y cwsmer. Mae ein hymrwymiad i gynaliadwyedd yn cael ei yrru gan yr hyn sydd yn bwysicaf i’r rheini sy’n byw yn ein cartrefi a’n cymunedau.
- Darparu cartrefi fforddiadwy, sy’n defnyddio ynni yn effeithlon: Lleihau tlodi tanwydd a chefnogi llesiant preswylwyr.
- Meithrin cydnerthedd o ran yr hinsawdd: Addasu cartrefi a seilwaith i wrthsefyll heriau amgylcheddol, gan sicrhau diogelwch a chysur i’n preswylwyr.
- Grymuso ein cwsmeriaid a’n cymunedau: Arwain camau gweithredu amgylcheddol lleol a chymryd rhan ynddynt, gan sicrhau bod lleisiau yn llywio ein penderfyniadau.
- Gwella mannau gwyrdd a mynediad i fyd natur: cyd-fynd â’r hyn y mae ein cymunedau yn ei werthfawrogi, gan gefnogi llesiant a bioamrywiaeth.
I’n cymdeithas
Rydym yn defnyddio tystiolaeth a dealltwriaeth i ymgorffori cynaliadwyedd ar draws ein gweithrediadau, ein mesurau llywodraethu a’n diwylliant, gan sicrhau bod ein penderfyniadau a’n gweithredoedd yn effeithiol ac yn canolbwyntio ar y dyfodol.
- Hyrwyddo teithio cynaliadwy ac adnoddau effeithlon: Annog cerdded, beicio a thrafnidiaeth carbon isel, wrth ymgorffori cynlluniau sy’n lleihau gwastraff ac yn ailddefnyddio deunyddiau yn y ffordd rydym yn gweithredu.
- Gyrru tryloywder a lleihau carbon: Monitro ac adrodd ar ein perfformiad amgylcheddol, ei wella, a lleihau allyriadau o’n swyddfeydd a’n gweithgareddau.
- Ymgorffori cynaliadwyedd yn ein penderfyniadau a’n cadwyn gyflenwi: Gwneud dewisiadau cyfrifol wrth gaffael, datblygu sgiliau gwyrdd, a sicrhau bod cynaliadwyedd yn eistedd ochr yn ochr â’n strategaeth a’n dulliau rheoli.
- Cydweithio ac arloesi gyda phartneriaid: Ymchwilio i atebion newydd o ran cynaliadwyedd, ac eirioli dros weithredu trwy godi ein llais o fewn y cymunedau a’r sector ehangach i hyrwyddo cyfrifoldeb am yr amgylchedd.
Newyddion diweddaraf
Croeso i wefan Hedyn ar ei newydd wedd ac yn well nag erioed!
Rhagor o wybodaeth
Hedyn yn croesawu dyfarniad rheoleiddiol gwyrdd/gwyrdd yn sgil cyfuno dwy gymdeithas
Rhagor o wybodaeth