Rydyn ni’n lansio cylchlythyr newydd sbon i breswylwyr, a hoffem eich help i roi enw iddo.
Felly, ewch ati i feddwl, anfonwch eich syniadau a bydd y cais buddugol yn ennill gwobr.
Bydd y cylchlythyr yn llawn dop o’r wybodaeth ddiweddaraf gan Hedyn, yn cynnwys newyddion cymunedol, cyngor defnyddiol, a gwybodaeth am y gwasanaethau sydd yn bwysig i chi.
Os ydych chi’n un o breswylwyr Hedyn, mae’r rhifyn cyntaf bellach yn eich blwch derbyn, felly cadwch lygad amdano. Peidiwch ag anghofio edrych yn eich mewnflwch sothach rhag ofn iddo lanio yno trwy gamgymeriad.
Ennill gwobr!
Bydd yr enw buddugol yn cael ei ddewis gan banel ac yn ymddangos yn rhifyn cyntaf y cylchlythyr.
Felly, ewch ati i feddwl a bod yn greadigol. Allwn ni ddim aros i weld eich syniadau!
Sut i gymryd rhan
Anfonwch yr enw rydych chi’n awgrymu ynghyd â’ch enw llawn a’ch cod post erbyn 16 Tachwedd 2026.
Gallwch roi cynnig arni drwy:
- Anfon e-bost i hello@hedyn.wales
- WhatsApp: 07555 691 234
Pob lwc!
