Wrth gyhoeddi ei Hadroddiad Blynyddol a’i Datganiadau Ariannol cyntaf, mae cymdeithas tai Hedyn wedi cofnodi blwyddyn gyntaf gadarn, gyda £105.2 o drosiant, 231 o gartrefi newydd wedi eu cwblhau, a phiblinell datblygu o dros 1,600 o gartrefi yn yr arfaeth.
Ffurfiwyd Hedyn yn Ebrill 2025 trwy uno Cartrefi Dinas Casnewydd a Chartrefi Melin, ac mae’r gymdeithas wedi tynnu cryfderau, arbenigedd ac adnoddau dwy gymdeithas tai ynghyd i greu mwy o gapasiti i fuddsoddi mewn cartrefi, gwella gwasanaethau a chynorthwyo cymunedau ar draws de-ddwyrain Cymru.
Mae ei chanlyniadau ariannol ar gyfer 2025-26 yn dangos trosiant o £105.2 miliwn, gwarged blynyddol o £8.7 miliwn a chyfanswm asedau o dros £818 miliwn, sy’n gosod sylfeini ariannol cadarn ar gyfer buddsoddiad a thwf yn y dyfodol.
Cofnododd y sefydliad gyfradd ail-fuddsoddi o 10.1% hefyd, sy’n adlewyrchu ei ffocws ar gynnal a gwella cartrefi sy’n bodoli eisoes yn ogystal â darparu cartrefi newydd.
Mae’r canlyniadau’n dilyn dyfarniad rheoliadol Gwyrdd/Gwyrdd diweddar Hedyn gan Llywodraeth Cymru, sy’n cydnabod bod y sefydliad yn bodloni’r safonau rheoliadol ar gyfer llywodraethiant a hyfywedd ariannol.
Gyda’i gilydd, mae’r canlyniadau ariannol a’r dyfarniad rheoliadol yn gosod sylfeini cadarn ar gyfer uchelgeisiau Hedyn i gynyddu’r cyflenwad o dai a darparu canlyniadau gwell ar gyfer trigolion.
Yn ystod y flwyddyn, cwblhaodd Hedyn 231 o gartrefi newydd, mae 472 pellach wrthi’n cael eu hadeiladu, ac 1,634 yn y biblinell datblygu. Mae’r biblinell yn cynrychioli mwy na 11% o bortffolio tai cyfredol y gymdeithas, sy’n dangos graddfa ei huchelgais i helpu i ddiwallu’r galw cynyddol am gartrefi fforddiadwy ar draws y rhanbarth.
Y tu hwnt i dai, mae’r adroddiad yn dangos cynnydd Hedyn wrth dynnu gwasanaethau, timau a systemau digidol ynghyd i greu profiad mwy cysylltiedig a chyson ar gyfer trigolion.
Trwy ei Banel Buzz ac Ymgynghori, mae Hedyn yn cynnwys preswylwyr mewn penderfyniadau ar gam cynnar, gan ddefnyddio eu hadborth, ynghyd â data a thechnoleg well, i wella gwasanaethau a gwneud pethau’n iawn y tro cyntaf.
Mae’r adroddiad yn dangos hefyd sut y mae adnoddau a phartneriaethau cyfunol Hedyn yn hwyluso cyfleoedd cymdeithasol ac economaidd ehangach yn ei gymunedau.
Yn ystod y flwyddyn, ail-fuddsoddwyd mwy na £114,000 mewn buddion cymunedol, a chafodd dros £553,000 o gyllid ei drosoli trwy bartneriaethau i gynorthwyo mentrau sy’n cael eu llywio gan flaenoriaethau lleol.
Yng Nghasnewydd, mae cam cyntaf rhaglen adfywio Ringland wedi cyflawni 38 o gartrefi newydd a 12 uned fasnachol, gan helpu i roi bywyd newydd i’r gymdogaeth. Gan weithio ochr yn ochr â Lovell, Cyngor Dinas Casnewydd, Prifddinas-ranbarth Caerdydd a Llywodraeth Cymru, mae’r rhaglen ehangach yn cyfuno buddsoddiad mewn tai â chyfleoedd ar gyfer busnesau lleol a’r gymuned.
Yn yr ardal ehangach, mae partneriaeth â Reality Theatre wedi helpu trigolion Westgate Court, sy’n gynllun ar gyfer pobl hŷn, i feithrin hyder a chysylltiadau trwy gynnal gweithdai creadigol, gan ddod i ben gyda pherfformiad o waith y trigolion eu hunain.
Gyda’i gilydd, mae’r prosiectau’n dangos dull Hedyn o fynd ati i adfywio cymunedau, gan gydnabod y gall buddsoddiad mewn tai greu cyfleoedd ehangach a buddion parhaus ar gyfer cymunedau.
Dywedodd Paula Kennedy, Prif Weithredwr Hedyn:
“Roedd tynnu dau sefydliad ynghyd am fagu nerth a meithrin y gwytnwch ariannol, yr arbenigedd a’r capasiti i gyflawni mwy ar gyfer ein trigolion a’n cymunedau.
“Blwyddyn yn ddiweddarach, rydyn ni’n dechrau gweld buddion y penderfyniad yna. Rydyn ni wedi gosod sylfeini ariannol cadarn, wedi cwblhau 231 o gartrefi newydd, ac mae gennym fwy na 1,600 pellach yn ein piblinell datblygu.
“Ond nid yw cryfder ariannol yn golygu dim oni bai ei fod yn cael ei ddefnyddio er da. I ni, mae hynny’n golygu buddsoddi mewn cartrefi y gall pobl eu fforddio, gwella’r gwasanaethau y mae trigolion yn dibynnu arnynt, a gweithio gyda chymunedau i greu cyfleoedd sy’n gwneud gwahaniaeth parhaus.
“Y tu ôl i bob cartref newydd mae teulu sy’n dod o hyd i rywle i adeiladu eu dyfodol. Y tu ôl i bob buddsoddiad yn ein cymunedau mae cyfle i bobl lewyrchu.
“Rydyn ni wedi gwneud cynnydd pwysig yn ein blwyddyn gyntaf, ond rydyn ni’n gwybod bod digon o waith o’n blaenau ni. Rydyn ni’n parhau i wrando ar drigolion, ymbweru ein cydweithwyr a gwella’n ffyrdd o weithio fel y gallwn gyflawni’r gwasanaethau dibynadwy a phersonol y mae pobl yn eu disgwyl.
Mae ein blwyddyn gyntaf wedi bod am osod sylfeini cadarn. Mae ein ffocws nawr ar beth sy’n dod nesaf, a defnyddio ein cryfderau cyfunol i ddarparu rhagor o gartrefi, gwasanaethau gwell a chymunedau cysylltiedig lle gall pawb fyw bywyd da.
Paula Kennedy Prif Weithredwr Hedyn
Wrth edrych tua’r dyfodol, bydd Hedyn yn parhau i ganolbwyntio ar gynyddu’r cyflenwad o gartrefi fforddiadwy, buddsoddi mewn eiddo cyfredol a gwella’r gwasanaethau y mae trigolion yn dibynnu arnynt.
Gyda rhaglen datblygu sylweddol, ffocws ar wytnwch ariannol ac ymrwymiad i weithio mewn ffordd fwy effeithlon a chydweithredol, mae’r sefydliad yn edrych ymlaen at y cam nesaf yn ei dwf.
