English
English

Diogelwch eich hun a’ch cymuned ar Noson Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt

Cymunedau Awdur: Bethany Prosser Rhannu'r erthygl hon Rhannu'r erthygl hon

Mae Noson Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt rownd y gornel, felly rydyn ni’n rhannu ambell i air cyfeillgar i’ch atgoffa, er mwyn helpu pawb i fwynhau’r dathliadau a meddwl am eu cymdogion.

Wrth i’r nosweithiau glosio ac wrth i gymunedau baratoi at Noson Calan Gaeaf ar 31 Hydref a Noson Tân Gwyllt ar 5 Tachwedd, rydyn ni’n atgoffa pawb y gall meddwl ychydig bach am ein cymdogion wneud gwahaniaeth mawr.

Er bod llawer o bobl yn edrych ymlaen at wisgo lan, cast neu geiniog ac arddangosfeydd tân gwyllt, gall yr adeg hon o’r flwyddyn hefyd olygu mwy o bryderon am sŵn, ymddygiad gwrthgymdeithasol, tanau bwriadol a chamddefnyddio tân gwyllt.

Trwy ein hymrwymiad i adeiladu cymunedau diogel a chysylltiedig, mae Hedyn yn cefnogi’r negeseuon y tu ôl i ymgyrch Bang, sef ymgyrch sy’n cynnwys yr heddlu, gwasanaethau tân ac achub a phartneriaid cymunedol i helpu i atal digwyddiadau sy’n gysylltiedig â thân ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Noson Calan Gaeaf – parchwch eich cymdogion

Dylai Calan Gaeaf fod yn adeg hapus i bawb, does dim gwahaniaeth a ydyn nhw’n dewis cymryd rhan neu eisiau noson dawel gartref.

Mae Heddlu Gwent eisiau atgoffa trigolion y gall Noson Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt achosi pryder i rai pobl, yn enwedig y rheiny sy’n teimlo’n agored neu’n anghyfforddus wrth ateb y drws i ddieithriaid. Gall synau uchel ac ymddygiad gwrthgymdeithasol hefyd effeithio ar drigolion, teuluoedd ac anifeiliaid anwes.

Rydyn ni’n gofyn i bawb:

  • barchu’r rheiny sydd ddim eisiau bod yn rhan o weithgareddau Calan Gaeaf.
  • beidio byth â thaflu wyau, blawd nac unrhyw beth arall at gartrefi, cerbydau na phobl.
  • ystyried sŵn ac osgoi ymddygiad sy’n dychryn neu’n fygythiol.
  • bod rhieni a gofalwyr yn gwybod ble mae eu pobl ifanc, gyda phwy maen nhw a beth maen nhw’n ei wneud.
  • gofalu am gymdogion y gallai fod angen sicrwydd neu gymorth ychwanegol arnynt.

Noson Tân Gwyllt – diogelwch yn gyntaf

Mae arddangosfeydd wedi’u trefnu yn ffordd wych o fwynhau’r naws gyda theulu a ffrindiau, ac mae ganddynt drefniadau diogelwch ar waith i helpu i reoli’r risgiau. Edrychwch ar restrau o ddigwyddiadau lleol, gwefannau’r Cyngor a hysbysfyrddau cymunedol i ddod o hyd i ddigwyddiad yn eich ardal chi a chynlluniwch eich taith ymlaen llaw.

Os ydych chi’n mynd i arddangosfa, dilynwch gyfarwyddiadau’r trefnwyr, cadwch at ardaloedd gwylio dynodedig a goruchwyliwch blant ar bob adeg.

Os ydych chi’n bwriadu defnyddio tân gwyllt gartref, byddwch yn arbennig o ofalus:

  • dilynwch y cyfarwyddiadau ar bob eitem o dân gwyllt a chadwch wylwyr ar bellter diogel
  • peidiwch byth â mynd yn ôl at dân gwyllt sydd wedi’i gynnau, hyd yn oed os yw’n ymddangos nad yw wedi ffrwydro
  • peidiwch byth â rhoi ffyn gwreichion i blant dan bump oed, a goruchwyliwch blant hŷn yn ofalus
  • cadwch anifeiliaid anwes dan do ac ystyriwch gymdogion a allai fod yn ofidus ar noson tân gwyll
  • peidiwch byth â defnyddio petrol neu baraffin i gynnau coelcerth a pheidiwch byth â gadael tân heb oruchwyliaeth.

Ewch i wefan Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i gael cyngor ac arweiniad am ddiogelwch tân a lleihau risgiau yn ystod y dathliadau.

Helpwch ni i daclo ymddygiad gwrthgymdeithasol

Dydy cynnau tân, difrod troseddol, ymddygiad bygythiol a chamddefnyddio tân gwyllt ddim yn hwyl ddiniwed. Maen nhw’n gallu achosi anafiadau difrifol, difrodi cartrefi a gwneud i bobl deimlo’n anniogel yn eu cymdogaethau eu hunain.

Mae Hedyn yn annog trigolion i riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eu cartrefi neu o amgylch eu cartrefi, er mwyn i ni allu asesu pryderon a gweithio gyda’r partneriaid perthnasol i roi sylw iddynt.

Cewch wybodaeth a chefnogaeth ar ein gwefan. Gallwch hefyd gysylltu â Heddlu Gwent i riportio troseddau neu ymddygiad gwrthgymdeithasol sydd ddim yn argyfwng neu ffonio 101. Ffoniwch 999 bob tro os yw rhywun mewn perygl dybryd neu os oes argyfwng tân.

Sicrhewch fod hwn yn dymor i’w fwynhau

Cynlluniwch, dewiswch ddigwyddiadau wedi’u trefnu a meddyliwch am y bobl o’ch cwmpas. Trwy wneud dewisiadau cyfrifol a gofalu am ein gilydd, gallwn ni i gyd helpu i greu cymunedau mwy diogel a chryfach.

Ar Noson Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt, dathlwch gyda’ch gilydd, cadwch yn ddiogel a gadewch y tân gwyllt i’r arddangosfeydd wedi’u trefnu lle bynnag y bo hynny’n bosibl.

Dolen cysylltiedigYmddygiad gwrthgymdeithasolRhagor o wybodaethGwasanaeth Tân a achub De CymruRhagor o wybodaethHeddlu Gwent Rhagor o wybodaeth
Gan Everglow Nôl adref Chwiliwch yma Mae pobl yn aml yn chwilio am