English
English

Cefnogi Hosbis Dewi Sant, filltir ar y tro

Hedyn Awdur: Fiona Williams Rhannu'r erthygl hon Rhannu'r erthygl hon

Llongyfarchiadau i Hosbis Dewi Sant ar y daith feicio Dalmatian ddydd Sadwrn. Rydyn ni’n falch dros ben o gefnogi’r digwyddiad ac mae’r lluniau’n adrodd cyfrolau. Llongyfarchiadau mawr i’r holl feicwyr gan gynnwys ein tîm o Hedyn a’n gwirfoddolwyr, am eu cymorth a’u cefnogaeth.

Dyma ein hail flwyddyn fel y prif noddwr, ac rydyn ni’n falch o chwarae ein rhan i sicrhau nawdd hanfodol i helpu i gadw’r hosbis i redeg, a chysylltu cymunedau, teulu a ffrindiau ar yr un pryd gyda diwrnod o hwyl i’r teulu.

Meddai Paula Kennedy, Prif Weithredwr Grŵp Hedyn:

“Mae ein hethos yn anelu at greu cymunedau cysylltiedig, ac felly mae cefnogi Hosbis Dewi Sant yn ddewis naturiol i ni.

Fel ein Helusen Ar Hyn o Bryd ac fel prif noddwr y Daith Feiciau Dalmatian, mae’r bartneriaeth hon yn adlewyrchu ein cyd-ymrwymiad i wneud gwahaniaeth go iawn.

Paula Kennedy

“Mae cymaint ohonom wedi teimlo effaith colli rhywun annwyl, ac mae llawer wedi gweld â’u llygaid eu hunain y gofal a’r tosturi anhygoel y mae Hosbis Dewi Sant yn eu rhoi i bobl a theuluoedd sy’n wynebu cyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd.

“Fel elusen, mae Hosbis Dewis Sant yn dibynnu’n helaeth ar ymdrechion i godi arian a chefnogaeth y gymuned, i barhau â’r gwaith hanfodol hwn.”

Mae Hosbis Dewi Sant wedi tyfu i fod yn un o ddarparwyr gofal hosbis yn y cartref mwyaf y DU, ac yn gofalu am dros 3,700 o gleifion a theuluoedd bob blwyddyn, gan wasanaethu cymunedau yn Ne-ddwyrain Cymru.

Meddai Beth, Rheolwr Cymunedol a Chodi Arian Gofal Hosbis Dewi Sant:

“Hoffem ddiolch o waelod calon i Hedyn am eich cefnogaeth anhygoel fel ein prif noddwr.

“Roedd eich cyfraniad yn hanfodol i lwyddiant y digwyddiad eleni, gan ein helpu i groesawu cannoedd o feicwyr a chodi arian hanfodol i gefnogi Gofal Hosbis Dewi Sant.

Rydyn ni mor ddiolchgar i gael Hedyn ochr yn ochr â ni, yn ein helpu i barhau â’n gwaith pwysig i gefnogi cleifion a theuluoedd pan fydd ei hangen fwyaf arnynt.

Beth

Allwn ni ddim aros tan y flwyddyn nesaf!

Ein Helusen Ar Hyn o BrydHosbis Dewi SantRhagor o wybodaeth
Gan Everglow Nôl adref Chwiliwch yma Mae pobl yn aml yn chwilio am