English
English

Hedyn yn croesawu dyfarniad rheoleiddiol gwyrdd/gwyrdd yn sgil cyfuno dwy gymdeithas

Hedyn Awdur: Sarah Ingham Rhannu'r erthygl hon Rhannu'r erthygl hon

Mae’r gymdeithas tai Gymreig Hedyn wedi croesawu dyfarniad rheoleiddiol gwyrdd/gwyrdd gan Llywodraeth Cymru yn ei asesiad llawn cyntaf ers i’r sefydliad ddod i fodolaeth trwy gyfuno dwy gymdeithas.

Wedi ei gyhoeddi ar 4 Medi 2026 mae’r dyfarniad yn rhoi statws gwyrdd i Hedyn am lywodraethiant a chyflawni gwasanaethau a hyfywedd ariannol, sy’n cadarnhau bod y sefydliad yn bodloni’r safonau rheoleiddiol angenrheidiol.

Dywedodd Lynda Sagona, Cadeirydd Hedyn: “Mae dyfarniad gwyrdd/gwyrdd Hedyn yn garreg filltir arwyddocaol ac yn darparu sicrwydd allanol pwysig fod Hedyn yn cael ei lywodraethu’n dda a’i fod yn wydn yn ariannol.

“Mae cyflawni’r deilliant yma’n destament i arbenigedd, ymroddiad a gwaith caled ein cydweithwyr, ein paneli trigolion ac aelodau ein Bwrdd dros y 18 mis diwethaf. Nid ar chwarae bach mae tynnu dau sefydliad ynghyd wrth barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol a chynorthwyo trigolion trwy broses y newid.

Mae’r dyfarniad yma’n dangos y sylfeini cadarn rydyn ni wedi eu gosod ar gyfer dyfodol Hedyn.

Lynda Sagona Cadeirydd Hedyn

Dywedodd Paula Kennedy, Prif Weithredwr Hedyn:

“Rydyn ni’n hynod falch o’r canlyniad yma, sy’n adlewyrchu ymdrechion cydweithredol ar draws Hedyn a’i ymrwymiad parhaus i’n trigolion a’n cymunedau.

“Mae dyfarniad gwyrdd/gwyrdd yn darparu platfform cadarn ar ein cyfer, ond rydyn ni’n gwybod bod nad oes lle i ni laesu dwylo. Rydyn ni wedi bod yn agored ac yn onest yn ein hunan-arfarniad ynghylch ymhle rydyn am wella, ac mae gennym gynllun clir i roi’r ddysg yna ar waith.

Ein huchelgais yw adeiladu ar y sefyllfa sydd ohoni trwy wrando ar drigolion, gwella eu profiad o’n gwasanaethau, buddsoddi mewn cartrefi diogel o safon uchel, a chreu cymunedau cysylltiedig lle gall pawb fyw bywyd da.

Paula Kennedy Prif Weithredwr Hedyn

Mae Hedyn yn darparu cartrefi a gwasanaethau ar gyfer dros 30,000 o drigolion ar draws y de. Gyda dros 15,000 o gartrefi, Hedyn yw’r gymdeithas tai fwyaf ond un yng Nghymru. Mae Hedyn yn gweithredu ar draws pump awdurdod lleol, sef: Blaenau Gwent, Sir Fynwy, Casnewydd, Powys, a Thorfaen.

Gan Everglow Nôl adref Chwiliwch yma Mae pobl yn aml yn chwilio am