English
English

Cydweithio’n taro’r nod mewn Diwrnod Golff Elusennol

The Hugh James golf team stood together on the green.
Hedyn Awdur: Fiona Williams Rhannu'r erthygl hon Rhannu'r erthygl hon

Cydweithio oedd wrth wraidd Diwrnod Golff Elusennol eleni, wrth i gydweithwyr, contractwyr, partneriaid a chefnogwyr ddod at ei gilydd i godi’r swm anhygoel o £4,000 ar gyfer ein Helusen y Flwyddyn, Gofal Hosbis Dewi Sant.

Roedd y digwyddiad blynyddol yn llwyddiant ysgubol. Dangoswyd grym partneriaeth a’r gwahaniaeth y gallwn ei wneud pan fyddwn yn cydweithio tuag at yr un nod. O fwrw ati ar y cwrs golff a gwneud cynnig yn yr ocsiwn, i gyfrannu gwobrau, prynu tocynnau raffl a rhoi o’u hamser, fe wnaeth bawb chwarae eu rhan, a sicrhau bod y diwrnod yn un i’w gofio.

Diolch yn arbennig i Peter Crockett, a gymerodd yr awenau unwaith eto i drefnu’r digwyddiad a sicrhau bod popeth yn rhedeg yn esmwyth o’r dechrau i’r diwedd. Dangoswn ein gwerthfawrogid hefyd i Chris Jowitt. Fe wnaeth ei ddoniau arbennig fel arwerthwr helpu i wneud y mwyaf o’r ymdrechion codi arian; hefyd i Fiona Williams, am weithio mo ddyfal ar y raffl a chipio uchafbwyntiau’r dydd y tu ôl i’r camera.

Daeth y digwyddiad â thimau o bob rhan o’n rhwydwaith contractwyr a phartneriaid at ei gilydd, gan ddangos y perthnasoedd cryf sy’n helpu i gefnogi ein gwaith trwy gydol y flwyddyn. Roedd eu cefnogaeth yn allweddol i lwyddiant y diwrnod ac mae’n dangos yr effaith gadarnhaol y gallwn ei gyflawni trwy gydweithio y tu hwnt i’n gweithgareddau o ddydd i ddydd.

Roedd y gystadleuaeth ar y cwrs yn ffyrnig. Hugh James gipiodd y tlws eleni a dod â theyrnasiad Dragon Signs ar frig y bwrdd arweinwyr, i ben. Yn bwysicaf oll, diolch am haelioni pawb a gymerodd ran. Codwyd £4,000 ar gyfer Gofal Hosbis Dewi Sant, felly’n helpu’r elusen i barhau â’i gwaith hanfodol yn cefnogi pobl a theuluoedd ar draws y cymunedau y mae’n eu gwasanaethu.

Diolch yn fawr iawn i Glwb Golff Parc, ac i bawb a ddaeth ati i fynychu, cyfrannu, gwirfoddoli a chefnogi’r digwyddiad. Gyda’n gilydd, fe wnaethom droi diwrnod gwych o golff yn gefnogaeth ystyrlon i achos hynod bwysig.

Ac os fethoch chi’r digwyddiad eleni, gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw nodyn o’r dyddiad ar gyfer y Diwrnod Golff Elusennol nesaf ar 10 Medi 2027. Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno.

Gan Everglow Nôl adref Chwiliwch yma Mae pobl yn aml yn chwilio am