Rydyn ni’n gyffrous i rannu ein gwefan newydd sbon gyda chi!
Diolch am eich amynedd wrth i ni adeiladu’r wefan lawn, wedi i ni uno. Nawr, gallwch fynd at bopeth sydd ei angen arnoch mewn un lle heb orfod mynd at un o’n hen gwefannau.
Yma, gallwch dalu eich rhent, trefnu gwaith trwsio, riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol, cael cyngor neu ddarganfod beth sy’n digwydd yn eich cymuned chi, gan gynnwys y cartrefi newydd rydyn ni’n eu hadeiladu.
Gwyliwch ein fideo byr i gael taith gyflym o amgylch y prif ardaloedd, i’ch helpu i ddod yn gyfarwydd.
Fideo: Edrychwch ar wefan Hedyn newydd
Diolch yn fawr i bawb a rannodd eu barn yn ein harolwg preswylwyr y llynedd – pob un o’r 700 ohonoch! Ac i’r rheiny ohonoch a gymerodd ran yn ein grwpiau ffocws a’n gwaith profi – fe wnaethoch chi i gyd ein helpu i adeiladu’r wefan newydd fel ei bod yn berffaith ar gyfer eich anghenion chi.
Nawr bod y wefan newydd yn fyw, bydd ein hen wefannau ar gyfer Cartrefi Melin a Chartrefi Dinas Casnewydd yn ‘ymddeol’ ddydd Mawrth 22 Medi. Wedi hynny, os byddwch chi’n ceisio ymweld â nhw, byddwch yn cael eich cyfeirio at y safle newydd yn lle.
Fel gyda phob gwefan, dydyn nhw byth wedi’u ‘gorffen’ yn llwyr, a byddwn yn parhau i ychwanegu rhagor o wybodaeth a chyngor defnyddiol ynghyd â newyddion a digwyddiadau, er mwyn eich diweddaru.
Gobeithio y byddwch chi’n mwynhau archwilio’r wefan newydd! Os oes gennych unrhyw adborth i’w rannu, cofiwch gysylltu â ni.
