Caiff ffilm fer newydd BBC Cymru sy’n cynnwys talent leol o bob rhan o’r de-ddwyrain ei sgrinio am y tro cyntaf yng Nghasnewydd yr wythnos hon, gan ddangos y creadigrwydd a’r cyfleoedd sy’n gallu deillio o dynnu cymunedau ynghyd.
Cynhelir dangosiad cyntaf Origin Story, a gynhyrchwyd gan It’s My Shout mewn partneriaeth â Hedyn, yn Cineworld Casnewydd dydd Mercher, 18 Tachwedd cyn ei ddarlledu ar BBC Two Cymru ym mis Rhagfyr.
Tynnodd y cynhyrchiad, a gafodd ei ffilmio yng Nghasnewydd a Chwmbrân, griw o 33 dan hyfforddiant a chast o 32 o Gasnewydd, Sir Fynwy, Blaenau Gwent a Thorfaen ynghyd. Hwn oedd profiad cyntaf llawer ohonynt o weithio ar set ffilm, a bu’n gyfle gwerthfawr i ddatblygu sgiliau, magu hyder ac ennill profiad yn y diwydiannau creadigol.
Y Gymraes Eden Quine-Taylor yw cyfarwyddwr Origin Story ac fe’i hysgrifennwyd gan yr awdures Grace O’Brien. Mae’n dilyn hanes Liam, cyw-rapiwr sy’n breuddwydio am fod yn enwog, a’i ffrind gorau Carly, sy’n brwydro am lwyddiant yn y ring focsio. Pan fo poblogrwydd yn temptio Liam, rhaid iddo benderfynu pa mor bell mae’n fodlon mynd i berthyn.
Manteisiodd y cynhyrchiad hefyd ar gefnogaeth busnesau a sefydliadau cymunedol lleol, gyda gwaith ffilmio’n digwydd yng Nghanolfan Gymunedol Shaftesbury, Clwb Columba a Chaffi Corpa yng Nghasnewydd, ac Eglwys Fethodistaidd Fairhill yng Nghwmbrân.
Cymerodd aelodau o KB Boxing and Fitness, clwb bocsio lleol a gefnogir gan Hedyn, ran yn y gwaith ffilmio hefyd, gan helpu i ddod â dilysrwydd i’r stori trwy ymddangos yn yr ornest focsio ar y sgrin a gweithredu fel dyfarnwyr.
Gweithiodd prif actor y ffilm, Oscar Holland, gyda’r lleisydd Cymreig Sizwe a chynhyrchydd cerddoriaeth i ddatblygu a recordio cân wreiddiol ar gyfer y cynhyrchiad.
Hedyn wedi cynorthwyo It’s My Shout i greu cyfleoedd i bobl o’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu ennill profiad ymarferol o gynhyrchu ffilmiau, o flaen a’r tu ôl i’r camera.
Dywedodd Joanne Kirrane, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Hedyn: “Mae yna rywbeth arbennig iawn am weld pobl a lleoedd o’n cymunedau ein hunain ar y sgrin, yn arbennig pan fo llawer o’r bobl sy’n cymryd rhan yn profi rhywbeth fel hyn am y tro cyntaf.
Yn Hedyn, rydyn ni’n credu bod cymunedau cryf yn cael eu hadeiladu trwy gyfleoedd, cysylltiadau a rhoi cyfle i bobl wireddu eu potensial. Mae’r bartneriaeth hon yn esiampl fendigedig o sut mae hyn yn gallu edrych yn ymarferol
Joanne Kirrane Cyfarwyddwr Gweithrediadau
“O’r bobl ifanc sydd wedi ennill profiad gwerthfawr i’r sefydliadau lleol sydd wedi agor eu drysau i’r cynhyrchiad, mae Origin Story yn ddathliad gwirioneddol o’r dalent a’r ysbryd o gymuned sydd gennym ni yma yn y de. Rydyn ni’n hynod o falch o fod wedi gallu chwarae rhan wrth ddod â hyn yn fyw.”
Bydd y dangosiad cyntaf ar 18 Tachwedd yn tynnu’r rhai fu ynghlwm wrth greu’r ffilm ynghyd ac yn dathlu eu cyflawniad. Caiff ffilm cefn-llwyfan wedi ei chreu gan bobl ifanc dan 18 oed o Gasnewydd ei sgrinio hefyd.
Ar ôl y dangosiad cyntaf yma, caiff Origin Story ei darlledu ar BBC Two Cymru ym mis Rhagfyr 2026, wedyn bydd ar gael i’w gwylio ar BBC iPlayer am flwyddyn.
Mae’r rhai fu’n cymryd rhan yn y cynhyrchiad wedi cael gwahoddiad i Seremoni Wobrwyo It’s My Shout yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 31 Ionawr 2027 hefyd Bydd hwn yn gyfle arbennig i ddathlu gorchestion ar draws holl gynyrchiadau’r cwmni.
Cadwch lygad ar ein sianeli am y manylion darlledu ac i weld sut y gallwch chi wylio Origin Story ym mis Rhagfyr.
