English
English

Crucial Crew: Allwch chi adnabod Ymddygiad Gwrthgymdeithasol?

Group of school children at Hedyn's stand to learn more about ASB
Cymunedau Awdur: Sam Muftuoglu Rhannu'r erthygl hon Rhannu'r erthygl hon

Pan fydd pobl yn meddwl am ymddygiad gwrthgymdeithasol, maen nhw’n aml yn meddwl am orfodi. Ond mae atal yr un mor bwysig.

Fe fu aelodau ein tîm Cymunedau ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol mewn digwyddiad Crucial Crew ym Marics Rhaglan, Casnewydd, lle bu disgyblion Blwyddyn Chwech lleol yn dysgu am yr effaith y gall ymddygiad gwrthgymdeithasol ei chael ar unigolion, cymdogaethau a chymunedau.

Defnyddiodd y disgyblion heriau rhyngweithiol, senarios yn seiliedig ar drafodaeth a gweithgareddau tîm, i archwilio sut i adnabod Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, deall ei ganlyniadau a gwneud dewisiadau cadarnhaol. Fe fuon nhw hefyd yn dysgu am faterion fel Ymddygiad Gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig â thân gwyllt a phwysigrwydd parchu’r rheiny o’u cwmpas.

Roedd brwdfrydedd y disgyblion a’u hymgysylltiad trwy gydol y dydd yn anhygoel.

Mae digwyddiadau fel hyn yn rhoi’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen ar bobl ifanc i chwarae eu rhan i wneud cymunedau yn llefydd mwy diogel a hapusach i fyw. Diolch yn fawr iawn i’r holl blant a gymerodd ran mor frwdfrydig ac i Nat, Bec a Lauren am sicrhau bod Hedyn yn rhan o ddiwrnod mor wych.

Mae Crucial Crew Casnewydd eleni yn cael ei gynnal am bythefnos rhwng 12 a 23 Hydref a bydd y gwasanaethau canlynol yn bresennol:

  • RNLI
  • Network Rail
  • Y Grid Cenedlaethol
  • Tân De Cymru
  • NACOA
  • Yr Heddlu
  • Sant Ioan
  • Y Gwasanaeth Ieuenctid
  • Wales & West
  • Fearless

Bydd digwyddiadau tebyg yn cael eu cynnal ym Mlaenau Gwent a Thorfaen yn y flwyddyn newydd.

Dolen cysylltiedigYmddygiad gwrthgymdeithasolRhagor o wybodaeth
Gan Everglow Nôl adref Chwiliwch yma Mae pobl yn aml yn chwilio am