English
English

Mae ein cylchlythyr cyntaf i breswylwyr wedi cyrraedd!

Photo of a mum and small child reading
Preswylwyr Awdur: Sam Muftuoglu Rhannu'r erthygl hon Rhannu'r erthygl hon

Rydym yn gyffrous iawn i rannu rhifyn cyntaf ein cylchlythyr newydd i breswylwyr Hedyn.

Mae’r cylchlythyr sydd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg eisoes yn glanio ym mewnflychau preswylwyr. Bydd copïau papur hefyd ar gael i breswylwyr sy’n byw mewn tai gwarchod, cynlluniau gofal ychwanegol a lleoliadau tai arbenigol eraill.

Mae’r cylchlythyr wedi ei gynllunio i fod yn fyr a hawdd ei ddarllen, gan ganolbwyntio ar y pethau sydd bwysicaf i’n preswylwyr. Fe welwch hefyd ddolenni i’n gwefan, os hoffech bori’n fanylach drwy unrhyw rhai o’r straeon.

Beth sydd yn y rhifyn hwn?

Yn y rhifyn cyntaf, fe welwch:

  • helpwch ni i enwi ein cylchlythyr newydd i breswylwyr
  • y wybodaeth ddiweddaraf am ein gwefan newydd
  • y newyddion diweddaraf am arolwg STAR
  • sut mae preswylwyr yn helpu i ddylanwadu ar wasanaethau trwy Buzz
  • gwelliannau rydyn ni wedi’u gwneud o ganlyniad adborth gan breswylwyr

Os ydych chi’n un o breswylwyr Hedyn, mae’r rhifyn cyntaf bellach yn eich blwch derbyn, felly cadwch lygad amdano. Peidiwch ag anghofio edrych yn eich mewnflwch sothach rhag ofn iddo lanio yno trwy gamgymeriad.

Mae’r cylchlythyr yn rhan o’n hymrwymiad i rannu’r diweddaraf gyda phreswylwyr, rhannu’r hyn sy’n digwydd ar draws Hedyn, a dangos sut mae adborth gan breswylwyr yn helpu i lunio ein gwasanaethau. Gobeithiwn mai dyma ddechrau ar rywbeth y bydd trigolion yn disgwyl ymlaen i’w gael a’i ddarllen bob yn ail fis.

Oes gennych stori i'w rhannu? Os oes rhywbeth yr hoffech ei weld mewn rhifyn yn y dyfodol, byddem wrth ein bodd i glywed gennych chi.
Dolen cysylltiedigPreswylwyrRhagor o wybodaeth
Gan Everglow Nôl adref Chwiliwch yma Mae pobl yn aml yn chwilio am