O adeiladu cartrefi fforddiadwy i ddefnyddio adeiladau gwag o’r newydd a gwella eiddo hŷn, mae cymdeithas tai Hedyn wedi bod yn dangos atebion ymarferol i rai o’r sialensiau mwyaf sy’n wynebu Cymru o ran tai yn ystod ymweliad gan aelodau o bwyllgor Seneddol.
Daeth aelodau o Bwyllgor Llywodraeth Leol, Tai a Chynllunio’r Senedd i ymweld â thri safle ar draws Casnewydd.
Yn Long Meadow Court Llyswyry, bu aelodau’r pwyllgor yn ymweld â 35 o gartrefi fforddiadwy oedd newydd eu cwblhau ar safle hen ddatblygiad tai gwarchod.
Mae’r cartrefi ag EPC Gradd A yn cynnwys cymysgedd o dai a rhandai, gyda phympiau gwres o’r aer a phaneli solar yn helpu i wella effeithlonrwydd ynni. Mae’r datblygiad wedi darparu manteision ehangach ar gyfer y gymuned hefyd, gan gynnwys cyfleoedd cyflogaeth, gwelliannau i gyfleusterau lleol, a chymorth ar gyfer sefydliadau cymunedol.
Yn Stow Hill yng nghanol dinas Casnewydd, gwelodd yr aelodau sut mae hen adeilad Argos wedi cael ei drosi’n 36 rhandy ac uned fasnachol, gan ddarparu cartrefi newydd wrth helpu i ddod â gweithgarwch a buddsoddiad nôl i galon y ddinas.
Mae’r datblygiad yn rhan o waith adfywio ehangach Hedyn yng nghanol dinas Casnewydd.
Aeth y pwyllgor i ymweld â Dyffryn hefyd i weld system gwres biomas Hedyn ar waith mewn tai cyfredol.
Gyda’i gilydd, mae’r tri safle’n adlewyrchu dull Hedyn o weithredu wrth daclo sialensiau tai Cymru: adeiladu mwy o gartrefi, gwella beth sydd gennym ni eisoes, a chryfhau cymunedau. O ddatblygiadau newydd i adfywio adeiladau sydd yno eisoes a buddsoddi mewn eiddo hŷn, mae pob prosiect yn dangos sut y gall atebion ymarferol wneud gwahaniaeth.
Ochr yn ochr â buddsoddi mewn cartrefi a chymdogaethau, mae Hedyn yn cydweithio’n agos â phartneriaid fel Heddlu Gwent i daclo ymddygiad gwrthgymdeithasol difrifol a throseddu, gan helpu’r trigolion i deimlo’n ddiogel a bod ganddynt gymorth yn y cymunedau lle maen nhw’n byw.
Dywedodd Paula Kennedy, Prif Weithredwr Hedyn: “Mae angen rhagor o gartrefi fforddiadwy ar Gymru, ond mae angen hefyd i ni feddwl am sut rydyn ni’n defnyddio’r adeiladau, yr adnoddau a’r cymunedau sydd gennym ni’n barod mewn ffordd wahanol.
“Mae tai yn fwy o lawer na dim ond na brics a mortar. Cartref diogel, cynnes a fforddiadwy yw’r sylfaen ar gyfer iechyd da, diogelwch ariannol a chyfleoedd. Trwy fuddsoddi mewn tai, mae’r buddion yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’r bobl sy’n byw yn y cartrefi hynny’n unig.
“Rydyn ni am adeiladu ar beth sy’n gweithio’n barod, ac mae hynny’n golygu buddsoddiad hirdymor, gweithlu medrus a dull cydgysylltiedig o weithio ar draws y llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus. Ni all tai ddatrys pob sialens, ond mae’n gallu bod yn rhan bwerus o’r ateb.”
Paula Kennedy Prif Weithredwr Hedyn
Bu’r ymweliad yn gyfle i drafod y rhwystrau i ddarparu tai ar y raddfa sydd ei hangen ar Gymru, gan gynnwys y tir sydd ar gael, y capasiti ar gyfer adeiladu, costau cynyddol a phwysigrwydd buddsoddi’n barhaus mewn cartrefi newydd a chyfredol.
Tynnodd Hedyn sylw hefyd at yr angen am ddull mwy cadarn a chydweithredol o weithredu i atal digartrefedd, gan gydnabod y cysylltiadau sydd yna rhwng tai, iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau cyhoeddus eraill.
Dywedodd Peter Fox AS: “Bu’r ymweliad yn gyfle gwerthfawr i weld â’n llygaid ein hunain sut y mae Hedyn yn cyfuno datblygu cartrefi cymdeithasol newydd ag adfywio adeiladau cyfredol yng Nghasnewydd. Yn Long Meadow Court a Stow Hill, gwelsom enghreifftiau o sut mae Hedyn yn cynyddu’r ddarpariaeth tai wrth fuddsoddi mewn cymunedau lleol. Mae gweld y prosiectau hyn a chlywed yn uniongyrchol gan y rhai sydd wrthi’n eu cyflawni ac yn eu rheoli, wir wedi dangos pwysigrwydd buddsoddi’n barhaus mewn datblygiadau newydd ac eiddo sy’n bodoli eisoes.”
Dywedodd David Hughes AS: “Roedd hi’n braf gweld â’n llygaid ein hunain sut mae tai cymdeithasol yn cael eu darparu ar gyfer cymunedau lleol a chlywed beth maen hyn yn ei olygu i drigolion. Roedd gweld system biomas Hedyn yn gweithredu yn Dyffryn wir yn dangos pam fod buddsoddi mewn tai hŷn i’w gwneud yn fwy cynnes ac yn fwy effeithlon o ran ynni mor bwysig. Clywsom ni hefyd gan staff y rheng flaen ynghylch sut mae Hedyn yn adeiladu cymunedau cryfach trwy fuddsoddi mewn cyfleusterau lleol, ac yn gweithio gyda gwasanaethau eraill i daclo ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan roi darlun gwerthfawr i ni a fydd yn helpu i lywio gwaith y Pwyllgor.”
Wedi ei ffurfio trwy gyfuno Cartrefi Melin a Chartrefi Dinas Casnewydd, Hedyn yw’r gymdeithas tai fwyaf ond un yng Nghymru. Mae’n darparu tua 15,000 o gartrefi ar gyfer dros 30,000 o drigolion ar draws de Cymru.
Yn ei flwyddyn gyntaf, cwblhaodd Hedyn 231 o gartrefi newydd, mae 472 pellach wrthi’n cael eu hadeiladu, ac 1,600 yn y biblinell datblygu.
