English
English

Plant ifanc yn arwain y ffordd yn ystod diwrnod yr amgylchedd a chynaliadwyedd

a child sits at a table making small mushroom shaped decorations
Cymunedau Awdur: Megan Hillier Rhannu'r erthygl hon Rhannu'r erthygl hon

Bu plant lleol yng Nghasnewydd wrth galon diwrnod yr amgylchedd a chynaliadwyedd yn ddiweddar, gan gymryd rhan mewn gweithgareddau â’r nod o hybu ymwybyddiaeth amgylcheddol, creadigrwydd a gofalu am ein cymunedau.

Ymunodd aelodau o Grŵp Helpwyr Hedyn Ysgol Gynradd Milton â Chaffi Cymunedol Ringland am sesiwn crefftau ailgylchu ar thema Calan Gaeaf, gan droi deunyddiau cyffredin y gellir eu hailgylchu’n addurniadau arswyd tymhorol.

Dywedodd Matthew Davies, Cyfarwyddwr Dylunio, Creu Lle ac Ymgysylltu Hedyn:

“Mae rhaglen Helpwyr Hedyn yn rhoi cyfle i ddysgwyr ifanc archwilio beth mae’n ei gymryd i greu a chynnal cymunedau llewyrchus.

Trwy weithgareddau ymarferol fel gweithdai ailgylchu, gall disgyblion gael gwell dealltwriaeth am gynaliadwyedd, gwaith tîm a’r effaith gadarnhaol y gallant ei chael yn eu hardal leol.

Matthew Davies
three children in yellow vests pick up litter on a grassy area

Cynhaliwyd y digwyddiad â ffocws amgylcheddol dros ddiwrnod cyfan gan dynnu cyfanswm o 51 o wirfoddolwyr o amrywiaeth o sefydliadau cymunedol a phartneriaid ynghyd i ymuno â Hedyn. Cymerodd cynrychiolwyr o Lovell, Academi Ieuenctid Casnewydd, Cadwch Gymru’n Daclus, ac Eglwys Bresbyteraidd Rigland ran mewn gweithgaredd casglu sbwriel llwyddiannus, gan lenwi 23 sach â sbwriel oedi ar strydoedd a thir glas Ringland.

a group of volunteers stand with a large pile of full rubbish bags

Trwy dynnu sefydliadau lleol, grwpiau cymunedol a phobl ifanc ynghyd, helpodd y diwrnod i sbarduno sgyrsiau am ein hamgylchedd a chynaliadwyedd wrth gryfhau cysylltiadau ar draws y gymuned.

Un esiampl yn unig o sut y mae Hedyn a’i bartneriaid yn gweithio gyda chymunedau lleol i godi ymwybyddiaeth am yr amgylchedd, hwyluso cyfleoedd dysgu a meithrin lleoedd cryfach ar gyfer y dyfodol yw’r digwyddiad hwn.

Diolch i bawb fu wrthi am wneud y diwrnod yn gymaint o lwyddiant.

Dolen cysylltiedigShops open at major Ringland regeneration programme in NewportRhagor o wybodaethIntroducing our Hedyn Helpers in NewportRhagor o wybodaeth
Gan Everglow Nôl adref Chwiliwch yma Mae pobl yn aml yn chwilio am