English
English

Cyfle i wylio’r Dreigiau’n chwarae gyda’n rhodd o 1,000 o docynnau!

Cymunedau Awdur: Fiona Williams Rhannu'r erthygl hon Rhannu'r erthygl hon

Mae Hedyn a Candleston yn falch ein bod yn parhau i gefnogi ein cymunedau lleol. Mewn partneriaeth â Chymuned Clwb Rygbi’r Dreigiau, rydym yn falch iawn o gynnig 1,000 o docynnau am ddim ar gyfer gêm rygbi’r Dreigiau yn erbyn Benetton ar 28 Chwefror am 5pm.

Byddwn yn gweithio gyda thrigolion lleol, ysgolion a sefydliadau cymunedol i roi’r cyfle iddynt fwynhau’r cyffro o wylio gêm Clwb Rygbi’r Dreigiau yn fyw.

Sut alla i gael tocynnau?

I ofyn am docynnau, anfonwch e-bost at communities@hedyn.wales gan nodi:

  • Eich enw llawn
  • Eich cyfeiriad e-bost
  • Nifer y tocynnau yr hoffech chi

Cysylltwch â ni erbyn 5 pm, ddydd Gwener 6 Chwefror 2026.

Bydd tocynnau digidol yn cael eu hanfon atoch drwy e-bost. Os byddai’n well gennych eu casglu ar ddiwrnod y gêm, rhowch wybod i ni yn eich neges.

Gan Everglow Nôl adref Chwiliwch yma Mae pobl yn aml yn chwilio am