Mae teuluoedd wrth eu boddau i ddechrau ar bennodd newydd yn Llyswyry wrth i Hedyn ddathlu agor 35 o gartrefi newydd yn Long Meadow Court.
Mae’r datblygiad a gafodd ei gwblhau mewn partneriaeth â J.G. Hale Construction, wedi trawsnewid hen safle tai gwarchod a chreu cyfuniad modern o dai a fflatiau er mwyn bodloni’r angen am dai lleol. Mae’r cynllun yn cynnwys dau eiddo pedair ystafell wely mewn ymateb i’r galw am gartrefi mwy i deuluoedd.
Yn ddiweddar, symudodd trigolion i mewn ac ymuno â chymdogion a phartneriaid mewn parti stryd i ddathlu’r gymuned newydd sy’n dechrau dwyn ffrwyth. I rai aelwydydd, mae’n dilyn cyfnod mewn llety dros dro, ac i eraill mae’n cynnig cartref sy’n fwy addas i’w hanghenion, a’r cyfle i ddechrau o’r newydd.
Ymhlith y trigolion newydd mae Susan Davies, 76, a’i gŵr, sydd wedi byw yn yr ardal ers bron i 50 mlynedd. Ar ôl i’w gŵr gael diagnosis o ddementia cymysg, roedd angen cartref llai ar y cwpl, un y gallent ymdopi’n well ynddo, ac roeddent yn awyddus i aros yn y gymuned y maen nhw’n ei hadnabod ac yn ei charu.
Meddai Susan: “Pan glywsom ni eu bod yn cynnig fflat i ni, roedd e’n teimlo fel ein bod ni wedi ennill y loteri. Roeddwn i’n poeni efallai y byddai’n rhaid i ni adael y gymuned a’r bobl rydyn ni’n eu hadnabod ac yn eu caru, ond gwrandawodd Hedyn ar yr hyn oedd yn bwysig i ni.
Mae ein cartref newydd yn berffaith i fy ngŵr a minnau. Rwy’n teimlo’n llawer mwy diogel ac yn fwy cyfforddus, gan wybod nad oes rhaid i mi ddringo dwy res o risiau nawr, a gallwn weld ein hunain yn treulio gweddill ein dyddiau yma yn hapus.
Susan
Mae cael fy nghartref fy hun yn golygu’r byd i mi ar ôl bod yn ddigartref.
Paul
Yn ogystal â darparu cartrefi newydd, mae’r prosiect wedi creu buddion parhaol i’r gymuned ehangach. Gan weithio gyda thrigolion, ysgolion a sefydliadau cymunedol, mae’r prosiect wedi cefnogi mwy na 2,400 o bobl, buddsoddi tua £37,000 yn lleol a chreu 24 o gyfleoedd gwaith a phrofiadau gwaith.
Mae celf wedi chwarae rhan bwysig yn y gwaith hwnnw. Cafodd murlun siopau Pontfaen a’r arwyddion mosaig pwrpasol ar gyfer Broadmead a Moorland eu datblygu diolch i syniadau a chyfranogiad disgyblion Ysgol Gynradd Llyswyry a’r gymuned ehangach. Aeth plant a phobl ifanc ati i gymryd rhan mewn sesiynau creadigol gydag artistiaid a sefydliadau lleol i helpu i drawsnewid mannau oedd yn cael eu hanwybyddu, er mwyn mynegi hunaniaeth leol mewn môr o liw.
Ymhlith y prosiectau cymunedol eraill, crëwyd dau beg pysgota hygyrch a byrddau addysgol ar safle Pyllau Pysgota Llyswyry. Bydd hyn yn helpu’r grŵp i ehangu ei weithgareddau i gynnwys teuluoedd a phobl ag anghenion dysgu ychwanegol.
Ariannwyd sesiynau beicio diogel ar gyfer pob disgybl ym Mlwyddyn 5 a 6 yn Ysgol Gynradd Llyswyry, ochr yn ochr ag arwyddion newydd i helpu i fynd i’r afael â pharcio anniogel. Cafodd clybiau chwaraeon lleol offer ac adnoddau, ac roedd y gefnogaeth a roddwyd i Ymddiriedolaeth Raven House yn cynnwys rhoddion rheolaidd, ac adnewyddu’r gegin ar gyfer ei banc bwyd a’i rhaglen goginio gymunedol.
Mae’r cartrefi wedi’u cynllunio i gyflawni sgôr EPC A ac maent yn cynnwys pympiau gwres aer, paneli solar, mannau gwefru cerbydau trydan a nodweddion draenio cynaliadwy, gan helpu i wneud y mwyaf o ddefnyddio ynni’n effeithlon a lleihau costau cynnal.
Meddai Paula Kennedy, Prif Weithredwr Hedyn: “Yn y pen draw, mae Long Meadow Court yn golygu rhoi lle diogel, cyfforddus a chynaliadwy i fwy o deuluoedd i’w alw’n gartref.
Mae cartref da yn rhoi sylfaen ar gyfer cymaint mwy. I blant, mae’n cynnig sicrwydd, a’r lle sydd ei angen arnynt i dyfu. Mae’n galluogi pobl i aros yn agos at y cymunedau a’r rhwydweithiau cymorth sy’n bwysig iddynt, ac mae’n rhoi cyfle i deuluoedd deimlo’n sefydlog.
Paula Kennedy Prif Weithredwr Hedyn
“Ond mae’r effaith yn ymestyn y tu hwnt i’r cartrefi eu hunain. Trwy wrando ar bobl leol a gweithio gydag ysgolion, grwpiau a sefydliadau, rydym wedi defnyddio’r buddsoddiad hwn i gefnogi sgiliau, llesiant, cynhwysiant a balchder cymunedol. Hoffwn ddiolch i J.G. Hale Construction, ein partneriaid cymunedol a chynghorwyr lleol Llyswyry am eu cefnogaeth drwy gydol y prosiect. Mae’n hyfryd gweld trigolion yn ymgartrefu, a gweld bod manteision y bartneriaeth hon eisoes yn amlwg ar draws y gymuned.”
Meddai’r Cynghorydd Saeed Adan, aelod cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros dai a chynllunio,: “Mae datblygiad diweddaraf Hedyn yn darparu cartrefi parhaol o ansawdd uchel, sy’n defnyddio ynni’n effeithlon, i deuluoedd lleol. I rai sydd wedi bod mewn llety dros dro, mi fydd yn rhoi’r sicrwydd a’r sefydlogrwydd sydd mor bwysig iddynt, yn enwedig i blant.
“Mae hefyd yn bwysig bod trigolion yn gallu gwneud cysylltiadau gwerthfawr o fewn y gymuned ehangach.
Mae ymrwymiad Hedyn i brosiectau gwerth cymdeithasol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn lleol ac mae’n fodel yr wyf yn gobeithio y bydd eraill yn ei ddilyn.
Councillor Saeed Adan
Mae agor Long Meadow Court yn rhan o ymrwymiad ehangach Hedyn i ddarparu cartrefi fforddiadwy o ansawdd, a meithrin cymunedau cysylltiedig lle gall pawb fyw yn dda.
