Cynhaliodd Hedyn ddigwyddiad ymgysylltu yr wythnos ddiwethaf ar gyfer ein contractwyr a’n cyflenwyr. Croesawyd 148 o gynrychiolwyr o 105 o gwmnïau gwahanol, ac fe fuom yn trafod ein fframwaith ar gyfer dod o hyd i’r contractwyr a’r cyflenwyr sy’n helpu i wneud gwaith yng nghartrefi preswylwyr, eu dewis a gweithio gyda nhw. Nod y digwyddiad hwn oedd rhannu ein dull arfaethedig o weithio gyda’n gilydd, a chasglu adborth i helpu i sicrhau ein bod yn darparu’r gwasanaeth gorau ar gyfer ein trigolion a’n cymunedau.
Roedd y digwyddiad yn gyfle i glywed gan y contractwyr a’r cyflenwyr sy’n chwarae rhan bwysig wrth ddarparu gwasanaethau ar gyfer ein trigolion. Trwy rannu syniadau a chasglu adborth, gallwn helpu i lunio ffyrdd o weithio ar gyfer y dyfodol, adeiladu partneriaethau cryfach a sicrhau ein bod yn darparu’r gwasanaeth gorau posibl a’r gwerth am arian gorau yn ein cymunedau.
Rydyn ni’n gwybod bod gwasanaethau da yn cael eu hadeiladu ar berthnasoedd da. Roedd dod â chontractwyr a chyflenwyr o bob rhan o Dde-ddwyrain Cymru at ei gilydd yn gyfle i ni gael sgyrsiau agored am yr hyn sy’n gweithio’n dda, ble gallwn wella, a sut y gallwn gyflawni’r canlyniadau gorau i breswylwyr yn y dyfodol.
Roedd heddiw yn ddiwrnod anhygoel ac yn gyfle gwych i ni wrando ar y bobl sy’n ein helpu i ddarparu gwasanaethau ar lawr gwlad bob dydd, deall eu profiadau a chasglu eu hadborth. Byddwn yn defnyddio’r adborth heddiw i ddylanwadu ar ein prosesau caffael; gwella’r ffordd rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd a gwneud pethau’n well ar gyfer ein trigolion.
Sarah Kelly Pennaeth Caffael Hedyn
