English
English

Hedyn yn derbyn Achrediad Siarter Cynhwysiant Digidol

Our Digital Inclusion business partner shares a demonstration on a mobile phone to a customer
Hedyn Awdur: Christian Page Rhannu'r erthygl hon Rhannu'r erthygl hon

Mae ymrwymiad parhaus Hedyn i sicrhau bod pawb yn cael mynediad at y byd digidol a sgiliau digidol wedi cael ei gydnabod, wrth i ni dderbyn Achrediad Siarter Cynhwysiant Digidol.

Mae’r achrediad hwn, a gyflwynwyd gan Cwmpas mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, yn dathlu sefydliadau ledled Cymru sy’n dangos ymagwedd glir a rhagweithiol wrth fynd i’r afael ag eithrio digidol.

Fel cymdeithas dai ‘Digidol trwy Ddewis’, mae Hedyn yn ymroddgar i gefnogi ein preswylwyr a’n cymunedau i ddatblygu’r sgiliau digidol sydd eu hangen arnynt i ffynnu. Rydym yn deall bod taith ddigidol pawb yn wahanol, ac rydym yma i helpu pob cam o’r ffordd.

Trwy sesiynau galw heibio am ddim un i un ac i grwpiau, sy’n cael eu cynnal yn ein cymunedau a chynlluniau byw’n annibynnol, gall preswylwyr rannu eu hanghenion digidol gyda ni. Bydd hyn yn ein galluogi i deilwra cymorth sy’n addas iddyn nhw.

Rydym hefyd yn rhoi arweiniad trwy gyfeirio at sefydliadau dibynadwy a chyfleoedd addysgol, gan helpu preswylwyr i feithrin hyder a gallu. I’r rhai sydd fwyaf mewn perygl o dlodi digidol, rydym yn cynnig cymorth ymarferol trwy gyflwyno neu fenthyg cardiau SIM, dyfeisiau digidol, a mynediad at gysylltiad Wi-Fi, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl.

Mae ein Safonau Gwasanaeth Cwsmeriaid yn adlewyrchu’r dull cynhwysol hwn, gan nodi:
“Rydym am i’n gwasanaethau fod yn hygyrch i bawb. Gan fod sefyllfa pawb yn wahanol, byddwn yn sicrhau bod ein gwasanaethau’n cael eu cynllunio i ddiwallu eich anghenion, ac yn canolbwyntio ar eich dewisiadau.”

A Hedyn colleague sat next to one of our over 55 housing customers helping them with the use of a tablet device.

Rydym hefyd yn dangos sut i gysylltu â Hedyn, sôn am atgyweiriadau, a rhannu lluniau pan fydd angen – i’n helpu i ddatrys ymholiadau yn gyflym ac yn effeithlon, gan ddefnyddio’r dull cyfathrebu sy’n gweithio orau i bob preswylydd.

Mae’r achrediad hwn yn garreg filltir arwyddocaol yn ein taith. Mae’n adeiladu ar y sylfaen a osodwyd gan Gartrefi Dinas Casnewydd, a gyflawnodd yr achrediad am y tro cyntaf ym mis Mehefin 2022 – tair blynedd cyn i ni uno.

Mae ein gwaith yn cael ei arwain gan y rhaglen Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol, sy’n diffinio cynhwysiant digidol fel:
“Mae’r safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol yn cynnwys cael mynediad at y rhyngrwyd, offer digonol a digon o hyfforddiant a chymorth, ond mae’n fwy na hynny. Mae’n golygu gallu cyfathrebu, cysylltu, a manteisio ar gyfleoedd mewn ffordd ddiogel a hyderus.”

Rydym yn falch o sefyll ochr yn ochr â sefydliadau eraill yng Nghymru i hyrwyddo cynhwysiant digidol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech wybod fwy am ein gwasanaethau a’n cefnogaeth, cysylltwch â ni:

Digital Inclusion Charter Accreditation badge
Gan Everglow Nôl adref Chwiliwch yma Mae pobl yn aml yn chwilio am