Pan ddechreuodd Sam Reed weithio yn y maes tai yng Nghyngor Dinas Casnewydd yn 2003, nid oedd dod yn Rheolwr Prosiect adeiladu o reidrwydd yn rhan o’r cynllun.
Dros 20 mlynedd yn ddiweddarach, ar ôl magu profiad yn y maes rheoli tai, adfywio cymunedol a datblygu, mae Sam wedi cymryd y cam nesaf yn ei gyrfa, gan ddod yn Rheolwr Prosiect yn Hedyn.
Dechrau’r daith
Dechreuodd Sam ei gyrfa yn gweithio’n agos gyda phreswylwyr a chymunedau, yn gwrando ar eu profiadau, datrys problemau a gwneud yn siŵr bod pobl yn teimlo eu bod yn cael eu clywed. Mae’r profiad cynnar hwnnw’n parhau i lywio’r ffordd y mae’n mynd ati i ddatblygu heddiw.
Waeth pa mor dechnegol yw prosiect, mae’n rhaid i chi gofio eich bod chi’n creu cartref i rywun. Mae fy nghefndir yn y maes tai yn fy helpu i edrych ar bethau o safbwynt y preswylydd
Sam Reed
Sut mae’n mynd
Trwy gydol ei gyrfa, mae Sam wedi parhau i ddysgu a datblygu ei sgiliau. Ochr yn ochr â gradd yn y Gyfraith a Chymdeithaseg a Diploma Ôl-raddedig yn y maes Tai, aeth ati’n ddiweddar i gyflawni HNC mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig. Mae’r cymhwyster wedi helpu Sam i ddatblygu’r wybodaeth dechnegol i ategu at dros ddegawd o brofiad yn y maes tai a rolau sy’n canolbwyntio ar y gymuned.
Heddiw, mae hi’n helpu i wireddu prosiectau adeiladu a phrosiectau adfywio newydd, o’r cam cynllunio cychwynnol i’r cam lle darperir cartrefi y gall pobl ymfalchïo ynddynt. Gan weithio ochr yn ochr â chydweithwyr, contractwyr a phartneriaid, mae Sam yn helpu i gydbwyso ansawdd, diogelwch, gwerth ac anghenion preswylwyr y dyfodol.
Mae ei dyrchafiad yn cydnabod nid yn unig ei phrofiad a’i hymrwymiad, ond hefyd ei natur benderfynol i barhau i ddysgu a mynd â’i gyrfa i gyfeiriad newydd.
Mae taith Sam yn enghraifft wych, sy’n profi nad yw gyrfaoedd bob amser yn dilyn llinell syth. Gall y profiad a’r persbectif a enillir mewn un maes tai ddod yn gryfder go iawn mewn maes arall, ac weithiau gall agor y drws i gyfleoedd nad oeddech chi erioed wedi’u disgwyl.
Llongyfarchiadau, Sam!
