English
English

Sicrhau bod ein gwasanaethau’n cael eu dylunio o’ch cwmpas chi

Preswylwyr Rhannu'r erthygl hon Rhannu'r erthygl hon

Yn Hedyn, rydym ni am ofalu amdanoch chi – ein trigolion. Rydym am ofalu am eich anghenion a gweld sut allwn ni wella’r ffordd yr ydym yn cyflenwi ein gwasanaethau hanfodol i chi.

I’n helpu i gyflawni hyn, rydym wedi dechrau gweithio gyda Places for People, cwmni sy’n ein helpu i wybod mwy am y pethau sy’n bwysig i chi. Maen nhw’n ein helpu i ddysgu mwy amdanoch chi a’r hyn yr ydych ei angen wrthym ni.

Dros yr wythnosau nesaf, efallai bydd aelod o The Harris Poll yn cysylltu â chi i ofyn cwestiynau ar eu rhan. Bydd y wybodaeth a gesglir yn ein helpu i wella sut rydym yn cyflenwi ein gwasanaethau ac yn sicrhau eu bod yn cael eu dylunio o gwmpas eich anghenion. Bydd yr arolwg yma trwy e-bost neu alwad ffôn.

Mae’r ymatebion i gyd yn ddienw ac yn gyfrinachol. Does dim rhaid i chi gymryd rhan, ond byddem yn gwerthfawrogi pe baech chi’n gwneud.

Fel diolch i chi am rannu ein barn a rhoi eich amser, byddwch yn derbyn taleb Amazon gwerth £5.

Aros yn ddiogel

Os ydych chi’n ansicr ar unrhyw adeg a yw galwad yn dod oddi wrthym ni, gorffennwch yr alwad a ffoniwch 0300 1212 345 – bydd un o’r staff profiad cwsmeriaid yn cadarnhau a yw’n ddilys ai peidio.
Roedden ni hefyd am atgoffa pawb o’n Hysbysiad preifatrwydd a sut y mae’n cadw eich gwybodaeth yn ddiogel.

Gan Everglow Nôl adref Chwiliwch yma Mae pobl yn aml yn chwilio am