English
English

Uno i daclo anghydraddoldeb bwyd

Shopping trolley full of foodbank goods.
Cymunedau Awdur: Megan Hillier Rhannu'r erthygl hon Rhannu'r erthygl hon

Aethom ni ati i uno â’n partneriaid MVR Solutions Ltd i gefnogi apêl y banc bwyd yn Ysgol Gyfun St Julians ym mis Hydref.

Pan benderfynodd Mr White, y Pennaeth, estyn allan i’r gymuned am help, roeddem yn falch o ymateb. Mae cael prydau maethlon yn hanfodol ar gyfer llesiant plant a’u gallu i ddysgu. Mae’n fodd o’n hatgoffa sut y gall cymryd camau ar lefel leol wneud gwahaniaeth go iawn.

Rydym yn credu mewn gweithio gyda phartneriaid sy’n rhannu ein huchelgais i greu cymunedau cysylltiedig, sy’n ffynnu, taclo anghydraddoldeb a chreu cyfleoedd.

Rydym yn ddiolchgar i MVR Solutions Ltd am eu cydweithrediad parhaus, ac i Ysgol Gyfun St Julians am y gwaith hanfodol maen nhw’n ei wneud bob dydd.

 

Gan Everglow Nôl adref Chwiliwch yma Mae pobl yn aml yn chwilio am