English
English

Wythnos Gwasanaethau Cwsmeriaid 2026

Three Hedyn staff pose with branded cupcakes
Preswylwyr Awdur: Sam Muftuoglu Rhannu'r erthygl hon Rhannu'r erthygl hon

P’un a ydych chi’n riportio atgyweiriad, yn gofyn cwestiwn neu’n chwilio am gymorth, mae llais cyfeillgar, proffesiynol ar ddiwedd y ffôn yn barod i helpu.
Bob blwyddyn, mae ein tîm gwasanaeth cwsmeriaid yn ateb miloedd o alwadau ac e-byst gan drigolion ar draws ein cymunedau. O helpu rhywun i olrhain apwyntiad atgyweirio, i ddweud wrthynt ble i fynd i gael cyngor a chefnogaeth, nid yw unrhyw ddau ddiwrnod byth yr un peth.

Yr hyn sy’n cadw’r tîm yn llawn cymhelliant yw gwybod eu bod yn gwneud gwahaniaeth, waeth pa mor fawr neu fach.

Amanda – “Rwy’n hynod falch o fod yn aelod o dîm gwasanaeth cwsmeriaid Hedyn. Nid yw unrhyw ddau ddiwrnod byth yr un fath, ac rwy’n caru’r ffaith fod fy rôl mor amrywiol. Yn bwysicaf oll, mae’n rhoi cyfle i mi helpu ein cwsmeriaid, a sicrhau eu bod yn cael gwasanaeth rhagorol dros y ffôn ac wyneb yn wyneb”

Faith – “Rwyf wrth fy modd â gwasanaeth cwsmeriaid. Rwy’n mwynhau gwneud gwahaniaeth cadarnhaol ym mywydau pobl, yn enwedig cefnogi cwsmeriaid oedrannus a bregus sydd efallai angen ychydig o amynedd a sicrwydd ychwanegol. Mae’n brofiad hynod o werth chweil yn gwrando arnynt, deall eu hanghenion a sicrhau eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu clywed, eu gwerthfawrogi a’u cefnogi.”

Rwy’n hoffi siarad â gwahanol bobl beth bynnag yw eu cefndir, a rhoi’r cymorth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.

Halima Aelod staff Hedyn

Y tu ôl i bob galwad ffôn, e-bost a neges, mae tîm o bobl go iawn sy’n poeni am y cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu. Maent yn dathlu’r dyddiau da gyda thrigolion, yn eu cefnogi trwy’r rhai sy’n fwy heriol, ac yn gwneud eu gorau glas i wneud pob cyswllt yn brofiad cadarnhaol.

Oeddech chi’n gwybod?

Y llynedd, fe wnaeth ein tîm gwasanaeth cwsmeriaid ddelio â mwy na 135,000 o alwadau, ac ymateb i dros 48,515 o negeseuon e-bost, sgyrsiau byw, negeseuon ap a negeseuon cyfryngau cymdeithasol, gan helpu trigolion i gael y wybodaeth, y gefnogaeth a’r gwasanaethau yr oedd eu hangen arnynt.

Gan Everglow Nôl adref Chwiliwch yma Mae pobl yn aml yn chwilio am